Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith Grŵp Iechyd Emosiynol ar gyfer Ysgolion

Emotional Health Group Work for Schools

Seicoleg Addysgol

Anghenion Dysgu Ychwanegol

01597 827108. Tyfu@powys.gov.uk

 

Gwaith Grŵp ar Gael Mewn Ysgolion 

Canolfan Argyfwng y Teulu Sir Drefaldwyn

Cymorth Cam-drin Domestig yng Ngogledd Powys

Pecyn Cymorth Adfer o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae'r pecyn hwn ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn rhaglen grŵp 8 wythnos sy'n defnyddio cyfuniad o weithgareddau creadigol a gwaith grŵp i ddatblygu gwytnwch plant a phobl ifanc ac yn rhoi cyfle iddynt brofi adferiad trwy gefnogaeth berthynol. Mae'n darparu gwybodaeth ac addysg sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ymdopi â'r adfyd y maent wedi'i brofi, (ac y byddant efallai yn ei brofi yn y dyfodol). Darperir y rhaglen yn rhad ac am ddim ac fe'i cyflwynir yn bersonol.

Break 4 Change. Rhaglen 10 wythnos yw Break 4 Change sydd wedi'i chynllunio i gefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan Gam-drin Plant i Rieni (Rhoddwyr Gofal). Nod y rhaglen yw darparu strategaethau a dulliau i sicrhau newid cadarnhaol, lleihau ymdeimlad y rhiant o unigedd a theimladau'r person ifanc o hawl. Mae'n rhad ac am ddim ac yn cael ei gyflwyno yn bersonol.

Rydym yn cynnig cefnogaeth un i un mewn Ysgolion ar effeithiau cam-drin domestig. Rydym hefyd yn hwyluso gwaith grŵp ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 6-18 oed, y tu allan i oriau addysgol. Rydym yn darparu amgylchedd grŵp diogel i blant sydd wedi dioddef, wedi cael eu heffeithio gan neu wedi bod yn dyst i gam-drin domestig. Mae'r rhain wedi'u rhannu'n ddau grŵp gwahanol, y clwb STAR a rhaglen STAR yr arddegau. Gall y Bobl Ifanc ddeall ac archwilio eu teimladau ynghylch yr hyn y maent wedi'i brofi. Cynhelir y clwb dros 8 wythnos, gan gwmpasu ystod o bynciau hanfodol, a chefnogir y plant i reoli teimladau sy'n gysylltiedig â Cham-drin Domestig. Mae plant yn dysgu sgiliau ymarferol o ran rheoli dicter a chadw'n ddiogel ac maent yn Deall nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

E-bost cysylltu Enquiries@familycrisis.co.uk

CALAN DVS

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod - Pecyn Cymorth Adfer ACEs  

Mae'r Pecyn Cymorth Adfer ACEs Plant a Phobl Ifanc yn rhaglen 8 wythnos sy'n defnyddio cyfuniad o weithgareddau creadigol a gwaith grŵp i ddatblygu gwytnwch pobl ifanc ac yn rhoi cyfle iddynt brofi iachâd cymorth perthynol. Mae'n darparu gwybodaeth ac addysg sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ymdopi â'r adfyd y maent wedi'i brofi. Rhoddir strategaethau ymarferol i gyfranogwyr y rhaglen i'w helpu i ffynnu yn eu bywydau bob dydd trwy ddatblygu eu gwytnwch, cynyddu gobaith a galluogi adferiad.  

Cefnogaeth un i un:  

Therapi Arlunio a Siarad  

Mae Arlunio a Siarad yn ddull therapiwtig diogel ac ysgafn, sy'n darparu ffordd effeithiol i blant a phobl ifanc brosesu poen neu drawma emosiynol. Yn cael ei gyflwyno un i un dros 12 wythnos.  

Gwranda a Chlyw Fi  

Mae'r rhaglen yn gweithio i rymuso plant a phobl ifanc i glywed a grymuso eu llais, eu cefnogi i adnabod a dechrau deall effaith cam-drin domestig ac yn darparu offer a mecanweithiau ymdopi a'u cefnogi i adeiladu eu hunan-barch, eu gwytnwch a ffurfio perthnasoedd iach. Yn cael ei chyflwyno un i un dros 10 wythnos.  

Ebost: katie.samuel@calandvs.org.uk 

Ffôn 01874 625146

Heddlu Dyfed Powys

Addysg Atal Troseddu

Mae Rhaglen Ysgolion yr Heddlu Dyfed Powys yn darparu gwasanaeth cofleidiol i ysgolion yng Nghymru gan gynnig addysg atal troseddu a gwasanaethau heddlua cefnogol fel y gwelwch yn is-bennawd y Rhaglen. Mae Swyddogion Heddlu Ysgolion yn darparu cyfres o wersi Atal Troseddu a mentrau Heddlua Ysgolion Cefnogol sy'n anelu at

  • Addysgu plant a phobl ifanc am y niwed gall cam-drin sylweddau ei achosi i'w hiechyd, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach
  • Cyflawni lleihad i'r lefelau o drosedd ac anhrefn oddi fewn i'n cymunedau ifanc.

Maen nhw'n hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth eang o gyflwyniadau mewn gwasanaeth ysgol. Mae'r gwasanaethau'n cynnig hyblygrwydd ac yn sicrhau fod WPSP yn dal i fyny gyda'r bygythiadau sy'n dod i'r golwg ynghyd â'r tueddiadau a'r problemau. Mae cyfres o flogiau ar gael hefyd a deunyddiau eraill ar ein gwefan ddynodedig SchoolBeat.cymru.

Mae ymagwedd gorfforaethol gan y Rhaglen i sicrhau fod yr holl blant, 5-16 oed ledled Cymru yn derbyn yr un wybodaeth gywir a chyfredol.

Mae Swyddogion SPO yn gweithio'n agos at arweinwyr Bugeiliol a Diogelu yn yr ysgol i gefnogi datblygiadau'r cwricwlwm newydd o ran Iechyd a Diogelwch.

Mae Swyddogion SPO hefyd yn cefnogi ysgolion drwy ymarferion heddlua cefnogol; delio gyda digwyddiadau drwy ddefnyddio polisi Curo Trosedd Mewn Ysgolion a chynnig atebion adferol, gan gynnwys cynadledda adferol pan fo'n ofynnol.

Cyswllt

Sir Drefaldwyn

PC129 Lindsay Sweetman  lindsay.sweetman@Dyfed-Powys.police.uk
PC 733 Gayle Jones  gayle.jones@Dyfed-Powys.police.uk

Sir Frycheiniog

kamen.sinclair-swift@dyfed-powys.police.uk

Sir Faesyfed

PC 597 Viv Ainsworth  Vivienne.ainsworth@dyfed-powys.police.uk

Mewngymorth CAMHS. Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

Hyfforddiant Proffesiynol  

Mae Tîm Mewngymorth Ysgolion CAMHS Powys yn cynnig hyfforddiant staff i ysgolion sy'n ymwneud ag Ysgolion sy'n Ymwybodol o Ymlyniad/Ystyriol o Drawma. Mae pecynnau hyfforddi proffesiynol eraill yn cynnwys meddyliau am hunanladdiad a hunan-niweidio, cwsg, anhwylder bwyta a phwysigrwydd chwarae. 

Dysgu yn y Dosbarth

Gall Tîm Mewngymorth Ysgolion CAMHS Powys gynnig pecynnau dysgu i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cydnerthedd, 5 Ffordd o Lesiant, Straen Arholiadau, Cynnal Cydnerthedd a Chyfryngau Cymdeithasol, Cysgu, Pryder, Hunan-niweidio, Ymateb i Boeni. Gallant uwchsgilio staff ysgolion i gyflwyno rhaglen pum wythnos yn ymwneud â strategaethau a fydd yn helpu gydag Emosiynau Mawr.

Mae Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid yn galluogi staff i fod yn fwy hyderus wrth ymateb i anghenion y plentyn neu'r person ifanc pan fydd problemau iechyd meddwl yn ymddangos gyntaf neu pan fydd iechyd meddwl person ifanc troi'n argyfwng. Mae staff a gweithwyr proffesiynol eraill ysgolion cynradd ac uwchradd yn gymwys i gael hyfforddiant, mae'r cynnwys yn cael ei gyfeirio at ddemograffeg plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd ond mae'n cynnwys pethau perthnasol i ysgolion sy'n cynnwys plant oedran cynradd. Mae prif themâu Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n eu hachosi, a'r arwyddion, symptomau a strategaethau y gellir eu defnyddio wrth gyflawni Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae'n cynnwys deall iselder (gan gynnwys syniadaeth am hunan laddiad a hunan niweidio), gorbryder, anhwylderau bwyta, seicosis a cham-drin sylweddau.

E-bost  powyscamhs.schoolsin-reach@wales.nhs.uk

Ffôn 01686 620 793

Twitter @Pthbschin_reach

Tîm Camfanteisio ar Blant Cyngor Sir Powys

Mae Hwb Camfanteisio ar Blant yn dîm oddi fewn i Wasanaethau Plant Powys. Mae camfanteisio yn derm sy'n cynnwys y canlynol: camfanteisio rhywiol, camfanteisio troseddol a llinellau cyffuriau, niwed ar-lein, radicaleiddio, llafur gorfodol, priodas orfodol, a chaethwasiaeth domestig. Rydym ni'n gweithio â phlant (hyd at 18 oed), teuluoedd, asiantaethau a chymunedau gan ddaparu cymorth arbenigol i blant y dynodwyd eu bod mewn risg mawr neu sydd wedi cael eu camfanteisio. Ein nod ni yw tarfu ar niwed, cefnogi adferiad plant ac adeiladu cydnerthedd a diogelwch oddi fewn i'w teuluoedd a rhwydwaith proffesiynol.

Ar lefel ataliol, gallwch gynnig cyngor a chanllawiau i weithwyr proffesiynol ac ysgolion sy'n gweithio gyda phlant i godi ymwybyddiaeth o'r hyn yw camfanteisio ar blant, a gallwn rannu adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo gyda chyfathrebu ac ymyrraeth â phlant.

Cyswllt E-bost  child.exploitation@powys.gov.uk

Twitter @powysCE

Am ymholiadau hyfforddi e bostiwch  practice.development@powys.gov.uk

Mae hyfforddiant ar gael yn chwarterol i bawb gan gynnwys staff ysgolion. Am ddim.

Mynediad Agored Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Sir Powys

Mae Tîm Ieuenctid Mynediad Agored yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleodd i bobl ifanc rhwng 11-25. Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg yn wirfoddol ac yn ben agored ei natur. Mae hyn yn golygu fod y gweithwyr ieuenctid yn gallu adeiladau cydberthasnau arwyddocaol gyda phobl ifanc. Mae hyn yn aml yn rhoi dealltwriaeth unigryw o bobl ifanc i'r gweithiwr ieuenctid a gwell gwybodaeth i deilwra eu gwaith i siwtio anghenion unigolion. Dros amser, mae hyn yn arwain at ddeilliannau cadarnhaol sy'n ymrymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu bywydau a'u dyfodol. Caiff y sesiynau eu darparu gan weithwyr ieuenctid 12 awr ac maen nhw'n cael eu cynllunio ar y cyd ag ysgolion. Mae'r ysgol a gwybodaeth a deallusrwydd cymunedol yn bwydo i mewn i'r cynllunio hwn ac yn ymateb i angen lleol. Caiff y grwpiau hyn eu ffurfio o gwmpas anghenion pobl ifanc ac maen nhw'n seiliedig ar sgyrsiau testunol, dyddiau ymwybyddiaeth ac unrhyw broblemau yn yr ysgol a allai fod wedi digwydd yr wythnos honno. Ceir sesiynau galw heibio i bobl ifanc yn ystod amseroedd egwyl a chinio ble gall pobl ifanc gael mynediad at y gweithwyr ieuenctid am gyngor a chyfarwyddyd ar amrywiaeth o faterion neu bynciau. Maen nhw'n ffurfio cydberthasau agos gyda'r adrannau Llesiant a Bugeiliol ym mhob ysgol i sicrhau fod darpariaeth o'r gefnogaeth wedi ei thargedu at y bobl ifanc sydd ei angen fwyaf.

Cyswllt

Eiriolaeth Ieuenctid ( Rhuban Gwyn)

Rhaglen eiriolaeth ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 14-18 oed o bob rhyw, i ddeall beth yw perthnasoedd iach a beth sydd ddim yn iach, dysgu am gam-drin domestig, trais rhywiol, a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â materion y mae disgyblion yn eu hwynebu'n ddyddiol fel secstio. Mae hefyd yn dysgu disgyblion am drais ar sail rhywedd a'r achosion sylfaenol sy'n gysylltiedig â hyn. Mae'n sesiwn dwy awr gyda seremoni ar y diwedd, lle bydd y disgyblion yn derbyn tystysgrif a lle gallant wneud addewid i'r Rhuban Gwyn i ddod yn fodel rôl yn eu hysgol a thynnu sylw at ymddygiad diangen.

Ar ôl y sesiwn ddwy‑awr gychwynnol, byddwn yn parhau i gefnogi'r grŵp i ddatblygu fel modelau rôl? Bydd hyn yn cynnwys canllawiau i'w helpu i godi ymwybyddiaeth o fewn eu cymunedau trwy waith prosiect, mynediad at gyllid yn benodol ar gyfer adnoddau, a chyfleoedd ar gyfer dysgu parhaus 

E-bost  glenys.vivers1@powys.gov.uk

Ffôn 01597826567

ADFERIAD RECOVERY.

Cam-drin Sylweddau.

Darparu sesiynau un i un gan ddefnyddio technegau seico-gymdeithasol o gwmpas y cam-ddefnydd o sylweddau. Caiff cymorth ei ddarparu hefyd i ddisgyblion a allai fod ag aelodau o'r teulu sy'n cam-ddefnyddio sylweddau.

Gwersi o gwmpas sylweddau. Fêpio, canabis, Alcohol. Gwersi pwrpasol ar gael os gaiff angen ei ddynodi.

Cysylltwch â'r Brif Swyddfa 0300 777258

Sarah Langford 07977537193

E-bost  Sarah.Langford@adferiad.org

Credu

Cymorth i Ofalwyr Ifanc, Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc a'u teuluoedd.

Cymorth emosiynol, cymdeithasol ac ariannol yn yr ysgol a thu allan. Dim cyfyngiad amser i'r cymorth, hynny yw dim nifer penodol o sesiynau. Darperir ymgysylltiad gyhyd ag y bo ei angen. Ymhlith yr enghreifftiau mae Ymyrraeth Un i Un, Grwpiau Cymorth i Gyfoedion, Preswyl, Cymorth ag Eiriolaeth, Cwnsela, Hyfforddiant. Sesiynau codi ymwybyddiaeth i ysgolion ar gael er enghraifft, hyfforddiant, gwasanaethau ysgol, a gwersi ABCh. Mae Polisi Canllaw Ysgolion ar gael am wybodaeth a chyngor.

Cyswllt Prif Swyddfa 01597823800

E-bost  carers@credu.cymru

Gwefan  www.carers.cymru

Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid Powys

Cefnogi Pobl Ifanc ag Anhawster Mynychu Ysgol ar Sail Emosiynol, Emosiynol a Lles gyda  Hunanbarch, Hunanhyder, deall teimladau, emosiynau ac ymddygiadau cysylltiedig. Cymorth i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol ynghylch e.e. hunan anafu nad yw'n lefel uchel, gorbryder, cydnerthedd emosiynol gwael, profedigaeth, teulu'n chwalu, effaith rhiant / gofalwr o ran iechyd meddwl wrth gam-drin cyffuriau/ alcohol, cydberthnasau cymdeithasol a chyfoedion, cydberthnadau teuluol, diogelwch personol e.e. camfanteisio, camfanteisio rhywiol, diogelwch ar-lein, cydberthnasau iach ac ymddygiad cymryd risg , datblygiad personol a chymdeithasol (gan gynnwys sgiliau am oes, dysgu a gwaith), cymorth i adeiladu cydnerthedd a sgiliau gwneud penderfyniadau sy'n cyfrannu at les.

Cyswllt:  Simon.titley@powys.gov.uk

Mind Canolbarth a Gogledd Powys

Yn Mind Canolbarth a Gogledd Powys, mae ein Gwasanaeth Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ar draws Canolbarth a Gogledd Powys. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion a cholegau fel bod y gefnogaeth rydym yn ei chynnig yn cyd-fynd yn wirioneddol â'r hyn sydd ei angen ar bob unigolyn ifanc. 

Mae ein cymorth un‑i‑un fel arfer yn dechrau gyda hyd at ddeuddeg sesiwn gydag un o'n hymarferwyr iechyd meddwl. Ar ôl hynny, rydym yn cynnig chwe sesiwn o hunangymorth‑â chefnogaeth, yn seiliedig ar syniadau ymddygiadol gwybyddol‑ysgafn. Mae'r ffocws ar helpu pobl ifanc i weld pethau'n wahanol, magu hyder, a datblygu adnoddau ymarferol i gefnogi eu lles. 

Rydym hefyd yn cysylltu â sefydliadau eraill i sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn derbyn pecyn llawn o gefnogaeth. Pan fydd angen mwy o gymorth arbenigol, rydym yn eu cyfeirio i'r lle iawn. Ein nod yw helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi a'u hannog wrth iddynt weithio ar eu lles ac adeiladu gwytnwch ar gyfer heriau yn y dyfodol. Rydym yn cynnig cefnogaeth i rieni hefyd, oherwydd bod gofalu am les unigolyn ifanc bob amser yn ymdrech tîm. 

Ochr yn ochr â'r gwaith un‑i‑un, rydym yn rhedeg sawl grŵp cyfeillgar, croesawgar. Mae'r rhain yn cynnwys Caffi Ieuenctid misol i bobl ifanc 11-15‑oed‑yn Llandrindod a'r Trallwng, a grŵp misol anneuaidd‑ ac i ferched ar gyfer pobl ifanc 11-15‑oed‑yn Llandrindod. Ar gyfer pobl ifanc hŷn rhwng 16 a 25 oed, rydym yn cynnig grwpiau personol‑wythnosol yn Llandrindod ac ar gampws NPTC yn y Drenewydd. 

Mae popeth a wnawn yn ymwneud â chreu mannau diogel, cefnogol lle gall pobl ifanc siarad, cysylltu, a theimlo eu bod yn cael eu deall. 

I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Lorna ar 07947 106804 neu e-bostiwch youth@mnpmind.org.uk 

 

Mind Aberhonddu a'r Cylch yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu

Ar hyn o bryd, mae Mind Aberhonddu a'r Cylch yn cynnig dau weithdy llesiant bob dydd Gwener yn ystod y tymor yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, gyda phob sesiwn yn darparu ar gyfer grwpiau o 10 o fyfyrwyr. Yn ogystal, rydym yn cynnal taith gerdded feddwlgarol yn ystod amser cinio. Mae'r gweithdai yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o bynciau, fel straen, pryder, hunan-barch, cysgu, hwyliau isel, a mwy. Er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn fuddiol, mae'r grŵp yn dewis y pynciau yn ystod y sesiwn gyntaf. Fel gyda holl Grwpiau Mind, darperir diodydd a bisgedi. Mae myfyrwyr ar gyfer y gweithdai yn cael eu hargymell gan eu penaethiaid blwyddyn, ac mae ganddynt yr opsiwn i gymryd rhan os dymunant. Mae'r teithiau cerdded amser cinio ar agor i bawb ar sail galw heibio

Cyswlltt: Lisa Price  lisa@breconmind.org.uk

Area 43

Mae Area 43 yn cynnal gweithdai ym mhob ysgol uwchradd ac ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 6. Gellir cyflwyno'r gweithdai hyn i grwpiau mawr neu fach a chynnwys staff yr ysgol. Mae'r themâu a gyflwynwyd eisoes yn cynnwys; Straen Arholiadau, ymwybyddiaeth LHDTQI+, Therapi Sy'n Canolbwyntio ar Dosturi a Phontio i'r ysgol uwchradd.
Mae Area 43 yn darparu gwasanaeth cwnsela am ddim i bobl ifanc mewn ysgolion (10-18 oed) ledled Powys.
Argaeledd:
Cwnsela wyneb yn wyneb yn ystod oriau ysgol.
Cwnsela ar-lein: Dydd Llun i ddydd Gwener, 12pm-9pm.
Cyswllt: counselling@area43.co.uk
Ffôn: 01239 614566

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Mae'r Swyddog Cydraddoldebau ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn gweithio gyda Gweithwyr Ieuenctid mewn Ysgolion, Timau Bugeiliol, a staff ysgol i sefydlu a chynnal grwpiau amrywiol a arweinir yn ôl angen mewn ysgolion uwchradd, gan gynnwys grwpiau LHDTQ+. Mae'r grwpiau hyn yn darparu mannau diogel i bobl ifanc drafod materion, cynyddu gwelededd cadarnhaol, herio stereoteipiau, a chodi arian. Gellir trefnu gwaith gyda Chynghorau Ysgol a Chapteiniaid Dosbarth i herio polisïau ysgolion, yn enwedig o ran gwisg ysgol. Cynhelir sesiynau grŵp ffocws i rymuso pobl ifanc i leisio problemau a dod o hyd i atebion. Mae gweithdai ar gael ar gadernid, stereoteipiau, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac maent yn darparu Hyfforddiant Mentoriaid Cymheiriaid i fyfyrwyr Blwyddyn 10 a 12.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â  jess.metcalf@powys.gov.uk

 

Rhannwch y dudalen hon