Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treth y Cyngor: Fframwaith Bilio, Casglu ac Adennill

Mae'r fframwaith yn ymdrin â chasglu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes.

Mae gan Gyngor Sir Powys ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod yr holl symiau sy'n ddyledus i'r Cyngor yn cael eu bilio, eu casglu a'u hadennill mewn dull cost effeithiol ac mae'n ystyried bod gan bobl gyfrifoldeb i dalu.

Mae Cyngor Sir Powys yn credu mewn adennill dyled o bob math. Bydd Powys yn ymdrechu i sicrhau bod y modd y mae hyn yn cael ei wneud yn deg ac yn gyson i bawb. Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i sicrhau bod yr holl weithgareddau mewn perthynas ag adennill dyledion yn dryloyw ac fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae wedi drafftio'r fframwaith hwn.

Mae Cyngor Sir Powys yn cydnabod nad yw pobl yn talu eu dyledion am amrywiaeth o resymau:

  • Mae rhai pobl yn ei chael hi'n wirioneddol anodd i dalu eu taliadau ac mae arnynt angen cyngor a chymorth gyda rheoli cyllidebau;
  • Mae rhai pobl yn dewis mynd ati i oedi, neu i beidio talu eu dyledion yn fwriadol ;
  • Nid yw rhai pobl yn derbyn y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt;
  • Mae rhai pobl yn mynd drwy anawsterau personol sy'n arwain at broblemau tymor byr wrth dalu eu dyledion.

Ein Cenhadaeth ...

  • Cyflwyno'r bil cywir i'r person / busnes iawn yn yr eiddo iawn ar yr adeg iawn;
  • Cymryd camau cywir i adennill y swm mwyaf posibl o Ddyled;
  • Sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn hawlio gostyngiadau Treth y Cyngor.

Mae'r fframwaith hwn yn cyd-fynd â'r Weledigaeth Gorfforaethol 2025 a phrotocol treth y cyngor Cymru, trwy gynnig y canlynol i'r cwsmer:

  • Hysbysu pobl am eu hawl i Eithriadau Treth y Cyngor a Gostyngiadau 
  • Hysbysu busnesau am eu hawl i Ryddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, Rhyddhad Elusennol a Chaledi.
  • Parodrwydd i weithio gyda chwsmeriaid pan maent yn cael anawsterau gwirioneddol.
  • Gwneud trefniadau i ledaenu ad-daliadau mewn amgylchiadau dilys.
  • Parodrwydd i wneud ymholiadau manwl am y system fudd-daliadau i weld a oes hawl i gael budd-dal treth y cyngor a budd-dal tai.
  • Ad-dalu credydau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes yn brydlon.
  • Rhaglen gadarn i sicrhau ad-daliadau gan ddyledwyr sy'n ymddangos fel pe baent yn oedi'n fwriadol, neu yn gwrthod talu'r ddyled sy'n ddyledus.

Pan fydd pobl yn mynd i ôl-ddyledion, byddwn yn ...

  • Annog cwsmeriaid i gysylltu â'r Cyngor cyn gynted ag y daw'n amlwg y gallai fod problemau wrth dalu eu biliau.
  • Ystyried trefniadau talu sy'n adlewyrchu'r gallu i dalu yn ogystal â lefel y ddyled sy'n ddyledus.
  • Ar adegau, yn dibynnu ar y pwynt cyswllt oddi wrth y cwsmer, sicrhau'r ddyled cyn gwneud unrhyw drefniant i ad-dalu'r ddyled.
  • Sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn hawlio budd-daliadau pan fo hynny'n briodol a hysbysu cwsmeriaid yn unol â hynny, gan weithio gyda thîm Budd-daliadau a Swyddogion Lles y Cyngor.

Prosesau Bilio

Gall y cwsmer ddisgwyl ...

Y bil dechreuol sy'n cyflwyno gwybodaeth glir sy'n nodi:

  • Am beth y mae'r bil 
  • Y swm sy'n ddyledus
  • Sut i gysylltu â'r cyngor
  • Sut i dalu

Talu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes

Ym Mhowys rydym wedi ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi dalu eich biliau. Mae Powys yn cynnig amrywiaeth o ddulliau cyfleus, sy'n cynnwys:

  • Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
  • Talu trwy Gerdyn Debyd / Credyd
  • Dros y Rhyngrwyd (http://payments.powys.gov.uk)
  • Dros y ffôn trwy rif wedi'i awtomeiddio (03300 889 578)   
  • Talu drwy arian parod - mewn safleoedd Gwasanaethau Cwsmer sy'n cynnig y cyfleuster hwn
  • Talu drwy siec - mewn safleoedd Gwasanaethau Cwsmer sy'n cynnig y cyfleuster hwn, neu drwy'r post.
  • Talu mewn Swyddfa Bost neu fan PayPoint - trwy god bar talu.

Pa bynnag ddull y mae'r cwsmer yn ei ddewis, mae'n rhaid i'r taliad gyrraedd y Cyngor erbyn y dyddiad dyledus, sef yr 21ain o bob mis (mae gan daliadau trwy Ddebyd Uniongyrchol ddewis o 5 dyddiad talu, sef y 5, 11, 21, 25 neu'r 30 o'r mis).

Mae'r cyngor yn annog pobl i gysylltu ar unwaith os ydynt yn cael trafferth talu eu biliau.

Pan nad yw cwsmeriaid yn talu

Mae Cyngor Sir Powys yn credu mewn adennill dyled o bob math, ond bydd hefyd yn ceisio sicrhau bod y modd y mae hyn yn cael ei wneud yn deg ac yn gyson i bawb. Os oes problem wirioneddol yn wynebu'r cwsmer bydd Powys yn cysylltu ac yn sefydlu ffordd briodol ymlaen. Fodd bynnag, bydd cwsmeriaid sy'n oedi yn fwriadol, yn peidio â thalu, neu nad ydynt yn cadw at drefniadau y cytunwyd arnynt, yn wynebu trefn gadarn i adennill yr arian fel y nodir yn y ddogfen hon.

Taliadau Hwyr - Busnesau

O dan Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998, mae'r Cyngor yn gallu codi llog ar daliadau hwyr pan fydd y ddwy ochr yn cael eu gweithredu fel busnesau. Codir llog 30 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb ar gyfradd o 8% a chyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i godi llog yn unol â'r uchod.

Gwneud trefniant i dalu

Pan fydd cwsmer yn cael trafferth wirioneddol i gyflawni ei ymrwymiad, bydd y Cyngor yn ystyried gwneud trefniadau er mwyn i'r ddyled gael ei had-dalu'n llawn, o fewn trefniadau cyn gwysio o fewn terfynau amser a gytunwyd. Rydym yn anelu at gasglu'r arian cyn 31 Mawrth y flwyddyn ariannol, fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl ym mhob achos. 

Bydd y cyngor yn ystyried yr wybodaeth hon ac yn ogystal, bydd yn ystyried:

  • Cyfansymiau a argymhellir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
  • Didyniadau statudol mewn perthynas ag atafaelu enillion.
  • Beth fyddai'n swm rhesymol, gan ystyried incwm gweddilliol.

Lles y Cwsmer ac aelodau o Grŵp Agored i Niwed

Mae'n rhaid i Gyngor Sir Powys geisio adennill pob math o ddyled ac mae'n ymdrechu i weithredu mewn dull teg a chyson gyda'i holl gwsmeriaid, waeth beth yw eu hoed, rhyw, amgylchiadau personol ac ati.

Pan fydd y Cyngor yn cysylltu â'r cwsmer mewn gwahanol ddulliau, gan gynnwys galwadau ffôn a thrwy lythyr/e-bost a fydd yn dod yn uniongyrchol o'r cwsmer neu gan Sefydliad 3ydd Parti sy'n gweithio ar ran y cwsmer, bydd y Cyngor yn ymdrechu i ddeall p'un ai os yw'r cwsmer neu ei bartner/phartner yn un o'r categorïau a fyddai'n pennu bod y cwsmer yn unigolyn sy'n agored i niwed. Nid yw bod yn agored i niwed yn eithrio unigolyn rhag bod yn gyfrifol am dalu'r symiau y mae rhwymedigaeth arnynt i'w talu yn gyfreithiol.Fodd bynnag, mae'n helpu'r cyngor wrth benderfynu'r dulliau mwyaf priodol o gyfathrebu gyda'r cwsmer tra'n ceisio adennill arian sy'n ddyledus.

Pan fydd y Cyngor yn penderfynu bod y cwsmer yn unigolyn sy'n agored i niwed bydd yn penderfynu ar y ffordd orau i gasglu arian sy'n ddyledus.  Bydd y Cyngor yn gwneud ei orau glas i helpu'r cwsmer i sefydlu ffordd ymlaen.  Efallai mai'r ffordd o wneud hyn fydd gwahodd y cwsmer am gyfweliad personol, neu ymweld â hwy yn eu cartref, i weld os gellir pennu rhywun penodol y gall y Cyngor ddelio â nhw neu os gellir trefnu cyfeiriad "dan ofal" er mwyn anfon gohebiaeth.

Er nad yw'r canlynol yn rhestr derfynol, bydd y Cyngor yn ystyried y canlynol fel aelodau o grŵp agored i niwed.

  • Henoed - mae'r cwsmer yn ymddangos i fod dros 70 oed ac mae'n ymddangos ei fod yn cael ei ddrysu'n hawdd gan ohebiaeth a materion ariannol.
     
  • Pobl Anabl -mae hyn yn cynnwys anabledd meddyliol a chorfforol ac nid yw'n cynnwys mân-anableddau.
     
  • Salwch Tymor Hir neu salwch difrifol gan gynnwys rhai sy'n derfynol wael -mae hyn yn cynnwys unrhyw salwch sy'n effeithio ar allu'r cwsmer i dalu neu i ddelio a'i faterion ariannol ei hunan.
     
  • Profedigaeth deuluol -os yw'r cwsmer neu ei bartner wedi colli aelod agos o'r teulu.
     
  • Anawsterau cyfathrebu -lle mae yna rwystrau cyfathrebu dilys a chlir e.e. anawsterau iaith, nam ar y clyw, nam ar y golwg, anableddau dysgu ac ati.
     
  • Plant ifanc ar aelwyd ddifreintiedig -os oes plant tair blwydd oed neu iau ac arwyddion o amddifadedd cymdeithasol.
     
  • Beichiogrwydd -os yw'r cwsmer neu ei bartner yn y cyfnod olaf o'i beichiogrwydd, neu wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar.

Prosesau Adennill Treth y Cyngor

1. Anfon y Bil- Taladwy dros 10 mis, Ebrill - Ionawr.

Y cwsmer yn methu â gwneud taliad

2. Nodyn Atgoffa 1af - Os yw'r cwsmer yn talu o fewn 7 diwrnod i'r nodyn atgoffa 1af gallai'r taliadau arferol barhau ac ni wneir unrhyw newid i'r trefniadau. Os na wneir taliad, yna bydd yn symud ymlaen at nodyn atgoffa terfynol.

Cwsmer yn talu ar ôl y nodyn atgoffa1af ond yn methu rhandaliad neu yn talu rhandaliad arall yn hwyr

3. 2il  Nodyn Atgoffa - Mae hwn yr un fath â'r nodyn atgoffa 1af ond yn rhoi gwybod i'r cwsmer, os methir â thalu taliad arall y collir yr hawl i dalu mewn rhandaliadau.

Os bydd cwsmer yn colli un taliad arall ar ôl yr ail nodyn atgoffa

4. Anfonir Rhybudd Terfynol - yn gofyn am i'r balans sy'n weddill gael ei dalu o fewn 7 diwrnod.

Peidio â thalu ar ôl yr 2il nodyn atgoffa neu rybudd terfynol

5. Anfon gwŷs - Bydd y Cyngor yn gwysio'r cwsmer i ymddangos yn y Llys a chodir £50.00 o gostau ar y cwsmer. Os gwneir taliad yn llawn erbyn dyddiad y llys, ni fydd unrhyw gostau pellach yn cael eu hychwanegu.

Os nad yw'r ddyled yn cael ei thalu'n llawn erbyn dyddiad y llys

6. Gorchymyn Atebolrwydd - Bydd y Cyngor yn mynd i'r llys Ynadon ac yn gofyn am Orchymyn Atebolrwydd. Mae'r cwsmer yn mynd i gostau pellach o £20.00.

Unwaith y mae Gorchymyn Atebolrwydd wedi ei roi ...

7. Llythyr14 diwrnod - Bydd y Cyngor yn cyhoeddi llythyr yn gofyn am fanylion cyflogaeth a budd-daliadau sy'n cael ei dalu. Mae'r dyledwr o dan ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu'r wybodaeth hon. Mae methu â gwneud hyn yn drosedd a gallai'r rhai a ganfyddir yn euog o hyn fod yn agored i ddirwy.
 

Lle bo modd, bydd y Cyngor yn ystyried a oes modd adennill y ddyled drwy'r canlynol:

8. TrefniantArbennig -gallai'r Cyngor ddod i drefniant arbennig gyda'r cwsmer i ad-dalu'r ddyled gan y bydd hyn yn cyflawni amcanion y Cyngor o adennill arian sy'n  ddyledus ac osgoi costau ychwanegol ar y cwsmer y bydd llawer o'r opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer adennill yr arian yn eu cynnwys. Bydd methu â chyflawni  trefniant arbennig yn arwain at ddilyn un o'r camau a grybwyllir isod i adennill y ddyled.

9. Atafaelu Enillion - Gallai'r Cyngor wneud Gorchymyn Atafaelu Enillion a'i gyflwyno i gyflogwr y dyledwr.  Pennir y symiau i'w tynnu yn y rheoliadau ac mae gan gyflogwyr rwymedigaeth statudol i gydymffurfio â Gorchymyn.  Gallai cyflogwr ddidynnu £1.00 tuag at gostau gweinyddol bob tro y gwneir didyniad. Lle mae gan y dyledwr ddau neu fwy o orchmynion atebolrwydd heb eu talu, gallai'r Cyngor ofyn am gyflwyno uchafswm o ddau Orchymyn Atafaelu Enillion.

10. Didyniadau o Lwfans Ceisio Gwaith / Cymhorthdal Incwm / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth/Credyd Cynhwysol -Gallai'r Cyngor ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith ddidynnu arian o'r Lwfans Ceisio Gwaith /Cymhorthdal Incwm / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth/Credyd Cynhwysol. Mae'r rheoliadau yn pennu'r swm wythnosol sefydlog y gellir ei ddidynnu sy'n 5% o'r Lwfans Ceisio Gwaith /Cymhorthdal Incwm / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gyfer person sengl dros 25 oed.

11. Asiantaeth Orfodi - Bydd y cyngor yn anfon y cyfrif at asiantaeth orfodi.

Bydd yr asiantaeth orfodi yn ceisio cael gafael ar yr arian sy'n ddyledus. Bydd costau ychwanegol yn cael eu codi ar y cwsmer gan yr asiantaeth Orfodi. Bydd y costau a achosir gan y cwsmer yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol.

Os bydd yr asiantaeth orfodi yn methu cael yr arian sy'n ddyledus, dychwelir yr achos at y Cyngor.

Bydd dyled a fydd yn parhau i fod yn ddyledus ar y pwynt hwn yn cael ei throsglwyddo i banel gorfodi'r Cyngor lle gwneir penderfyniad ynghylch y ffordd fwyaf priodol o weithredu i adennill y ddyled. Yr opsiynau o ran adennill y ddyled sydd ar ôl yw:

12. Gorchymyn Codi Taliadau - Gellir rhoi gorchymyn ar eiddo'r dyledwr i sicrhau'r ddyled. Galluogir Llysoedd Sirol i orchymyn gwerthu'r cartref os nad yw'r dyledwr yn talu. Bydd yr opsiwn hwn yn cael ei ystyried lle bydd y ddyled yn fwy na £1,000:00

13. Methdaliad -os oes asedau digonol yn bodoli i dalu'r ddyled sy'n weddill gallai'r cyngor ddeisebu am fethdaliad i'r Llys Sirol, lle mae'r ddyled yn fwy na £5,000:00.

Prosesau Adennill Ardrethi Busnes

1. Anfon y Bil- Taladwy dros 10 mis, Ebrill - Ionawr.

Y cwsmer yn methu â gwneud taliad

2. Nodyn Atgoffa 1af - Os yw'r cwsmer yn talu o fewn 7 diwrnod i'r nodyn atgoffa 1af gallai'r taliadau arferol barhau ac ni wneir unrhyw newid i'r trefniadau.

Cwsmer yn talu ar ôl y nodyn atgoffa 1af ond yn methu rhandaliad neu yn talu rhandaliad arall yn hwyr

3. 2il  Nodyn Atgoffa - Mae hwn yr un fath â'r nodyn atgoffa 1af ond yn rhoi gwybod i'r cwsmer, os methir â thalu taliad arall y collir yr hawl i dalu mewn rhandaliadau.

Os bydd cwsmer yn colli un taliad arall ar ôl yr ail nodyn atgoffa

4. Anfon Rhybudd Terfynol - yn gofyn am i'r balans sy'n weddill gael ei dalu o fewn 7 diwrnod.

Peidio â thalu ar ôl rhybudd terfynol

5. Anfon gwŷs - Bydd y Cyngor yn gwysio'r cwsmer i ymddangos yn y Llys a chodir £50.00 o gostau ar y cwsmer. Os gwneir taliad yn llawn erbyn dyddiad y llys, ni fydd unrhyw gostau pellach yn cael eu hychwanegu.

Os nad yw'r ddyled yn cael ei thalu'n llawn erbyn dyddiad y llys ....

6. Gorchymyn Atebolrwydd - Bydd y Cyngor yn mynd i Lys ac yn gofyn am Orchymyn Atebolrwydd. Mae'r cwsmer yn mynd i gostau pellach o £20.00.

Unwaith y mae Gorchymyn Atebolrwydd wedi ei roi

7. Llythyr 14 diwrnod - Bydd y Cyngor yn anfon llythyr yn gofyn am sefydlu trefniant i ad-dalu'r ddyled.

Os nad yw'r cwsmer yn ymateb i'r llythyr 14 diwrnod... neu'n methu gwneud cyswllt gyda'r cyngor .... neu'n peidio â chyflawni trefniant arbennig a wnaed gyda'r Cyngor ....

8.Asiantaeth Orfodi - Bydd y cyngor yn anfon y cyfrif at asiantaeth orfodi.

Bydd yr asiantaeth orfodi yn ceisio cael gafael ar yr arian sy'n ddyledus. Bydd costau ychwanegol yn cael eu codi ar y cwsmer gan yr asiantaeth Orfodi. Bydd y costau a achosir gan y cwsmer yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol.

Os bydd yr asiantaeth orfodi yn methu cael yr arian sy'n ddyledus, dychwelir yr achos at y Cyngor.

Bydd dyled a fydd yn parhau i fod yn ddyledus ar y pwynt hwn yn cael ei throsglwyddo i banel gorfodi'r Cyngor lle gwneir penderfyniad ynghylch y ffordd fwyaf priodol o weithredu i adennill y ddyled. Yr opsiynau ar gyfer adennill y ddyled yw:

9. Traddodi - Gall y cyngor anfon yr achos i'r Llys ar gyfer achos traddodi, lle mae'r ddyled yn fwy na £200:00. Bydd y Llys yn penderfynu ar gamau priodol.  Bydd hyn yn naill ai, 1. Dileu'r ddyled (canslo'r hyn sy'n ddyledus yn llawn, neu'n rhannol) 2. Sefydlu trefniant i dalu'r ddyled neu 3. Rhoi dedfryd o garchar heb fod yn fwy na 3 mis.  Ychwanegir cost o £305:00 i'r ddyled.

10. Gorchymyn Codi Tâl - Gallai'r llys osod tâl / dyled ar eiddo'r dyledwr. Os caiff yr eiddo ei werthu, yna mae'r tâl yn cael ei ad-dalu o'r arian a dderbyniwyd. Gallai tâl aros ar yr eiddo am nifer o flynyddoedd. Bydd yr opsiwn hwn yn cael ei ystyried lle bydd y ddyled yn fwy na £1,000:00

11. Methdaliad / diddymu -os oes asedau digonol yn bodoli i dalu'r ddyled sy'n weddill gallai'r cyngor ddeisebu am fethdaliad i'r Llys Sirol, lle mae'r ddyled yn fwy na £5,000:00.

Dileu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes

O dan y gyfraith, mae rhwymedigaeth i gymryd camau rhesymol i gasglu dyledion. Fodd bynnag, mae sefyllfaoedd lle nad oes cyfiawnhad dros ddileu dyledion cyn belled ag y cymerwyd camau rhesymol o ran pob achos unigol. Felly, mae polisi dileu gweithredol yn hanfodol ar gyfer casglu Trethi ac Arderthi Busnes.

Yn unol â rheoliadau ariannol, rheolau sefydlog a phwerau dirprwyedig a gyflwynir gan y Cyngor, gellir:

  • Dileu hyd at £1,000 a ddirprwyir i Reolwr Incwm a Dyfarniadau
  • Dileu rhwng £1,00:01 a £25,000  swyddog adran 151
  • Dileu rhwng na £25,001 a £100,000 gan yr Aelod Portffolio Cyllid.    
  • Dileu mwy na £100,000 Cabinet

Amgylchiadau lle gellir awdurdodi dileu dyledion: 

Rhestrir isod y prif amgylchiadau lle'r ystyrir dyledion anadferadwy i'w dileu.

  1. Os yw'r unigolyn yn cael ei wneud yn fethdalwr (methdaliadau, ansolfeddau a gorchmynion gweinyddu).
  2. Mae'r unigolyn yn marw ac nid oes unrhyw arian o fewn y stad i dalu'r ddyled.
  3. Mae'r unigolyn wedi gadael yr Awdurdod, ac nid oes modd gwybod i ble mae wedi mynd. Os darganfyddir lle mae wedi mynd yn ddiweddarach bydd y gwaith o adennill yr arian yn ailddechrau.
  4. Os bydd y gost o gasglu'r arian yn fwy na swm y ddyled.
  5. Lle mae gwybodaeth arall a geir yn ei gwneud yn glir ei bod yn aneconomaidd neu'n anymarferol i adennill y ddyled.
  6. Achosion o galedi lle gallai amgylchiadau unigol y dyledwr arwain at benderfyniad i ddileu dyled.
  7. Os yw'r ddyled wedi'i thalu gan Lys Ynadon.

 

 

Statws: Fersiwn 10

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2024

Cytunwyd gan: Uwch Reolwr Incwm a Dyfarniadau

Dyddiad Adolygu: Mawrth 2027