Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwefru Cerbydau Trydan

Lleoliadau

Mae Cyngor Sir Powys yn darparu gwefru 'cyflym' i gerbydau trydan (EV) mewn gwahanol feysydd parcio Talu ac Arddangos ar hyd a lled y sir. Mae dau bwynt gwefru ym mhob maes parcio, gyda dau soced gwefru ar bob pwynt gwefru, fel bod pedwar cerbyd yn gallu gwefru ar yr un pryd ymhob lleoliad.

Lleoliadau cyfredol y pwyntiau gwefru i gerbydau trydan:

Image of an electric vehicle charging point

Yn fyw nawr:

  • Maes Parcio Heol Maengwyn, Machynlleth, SY20 8DY
  • Maes Parcio Mount Street, Llanidloes, SY18 6BZ
  • Maes Parcio Stryd Henffordd, Llanandras, LD8 2AT
  • Maes Parcio'r Stryd Fawr, Llandrindod, LD1 6BG
  • Maes Parcio'r Groe, Llanfair-ym-Muallt LD2 3BL
  • Maes Parcio'r Watton, Aberhonddu LD3 7ED
  • Maes Parcio Stryd yr Eglwys, y Trallwng, SY21 7DD
  • Maes Parcio Lôn Gefn, y Drenewydd, SY16 2NH
  • Maes Parcio Lawnt Fowlio Lôn, Trefyclo, LD7 1DJ
  • Maes Parcio Lôn Dywyll, Rhaeadr, LD6 5DD
  • Maes Parcio Ffordd Oxford, Y Gelli Gandryll, HR3 5EQ
  • Maes Parcio Stryd Beaufort*, Crughywel, NP8 1AE
  • Maes Parcio Heol Eglwys, Ystradgynlais, SA9 1EY

* - dim ond un gwefrydd ar gael ar hyn o bryd sy'n gallu gwefru 2 gerbyd ar yr un pryd.

Mae rhagor o wybodaeth am leoliadau gwefru cerbydau trydan i'w gweld yn www.zap-map.com/live

 

Y math o wefru

Mae holl beiriannau gwefru Cyngor Sir Powys ar gyfer cerbydau trydan yn cael eu darparu trwy socedi IEC 62196 Math 2. Y defnyddiwr sy'n darparu'r cebl gwefru.

Mae'r pwyntiau gwefru 'cyflym' yn defnyddio rheolaeth ddeinamig ar y llwyth ac maen nhw'n gallu gwefru cerbyd trydan yn llawn o fewn tair i bedair awr, gan ddibynnu ar fath a nifer y cerbydau sydd wedi'u gwefru ar y pryd.

 

Sut i ddefnyddi'r pwyntiau gwefru

Cyngor Sir Powys sy'n berchen ar yr holl bwyntiau gwefru i gerbydau trydan, ac mae'r pwyntiau gwefru ar Rwydwaith Gwefru Dragon.

Mae gofyn i ddefnyddwyr yr holl bwyntiau gwefru fod â chyfrif gyda naill ai Dragon Charging er mwyn gallu cael mynediad i'r cysylltiad. I greu cyfrif, ewch i www.dragoncharging.co.uk/my-account/

Y cyfan y mae'n rhaid i ddefnyddwyr ei wneud yw plygio eu cerbyd i'r pwynt gwefru a dechrau gwefru naill ai trwy ddefnyddio'r ap ar y we ar ffôn clyfar neu ddefnyddio cerdyn RFID sydd wedi'i gofrestru â chyfrif y defnyddiwr. Mae cardiau RFID i'w cael gan Dragon Charging.

 

Ffioedd

Dyma'r ffioedd presennol* gan gynnwys TAW:

  • £0.00 ffi cysylltu, a
  • £0.65 fesul kWh o drydan a ddefnyddiwch

Enghraifft: - byddai cerbyd trydan 60kWh yn costio £39.00 i'w wefru i'w wefru'n llawn o fatris gwag.

Sylwch: Mae'r holl bwyntiau gwefru wedi'u lleoli mewn meysydd parcio Talu ac Arddangos. Bydd angen talu'r ffi berthnasol hefyd ar gyfer yr amser y mae'r cerbyd wedi'i barcio yn y maes parcio. Cofiwch Dalu ac Arddangos.

Gellir gweld y ffioedd am ddefnyddi'r maes parcio yn Ffioedd safonol y meysydd parcio

*Gall y ffioedd gael eu hadolygu o dro i dro

 

Rhagor o wybodaeth

Cyngor Sir Powys sy'n darparu'r pwyntiau gwefru hyn ar gyfer cerbydau trydan, er budd trigolion ac ymwelwyr, er mwyn hwyluso'r trawsnewid i ddyfodol carbon isel. Ariannwyd y prosiect gan Y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) a Chyngor Sir Powys. Cyflenwyd y prosiect gan Gyngor Sir Powys a Silverstone Green Energy.

Rhwydwaith rhanbarthol yw www.dragoncharging.co.uk sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru megis Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Croesawn eich adborth. Anfonwch e-bost at parking@powys.gov.uk