Amseroedd bysiau lleol
Gallai gwasanaethau gael eu cwtogi neu eu dileu ar wyliau banc a gall amserlenni newid ar fyr rybudd. Cofiwch wirio pris y tocynnau ac amseroedd teithio cyn gwneud eich trefniadau teithio terfynol.
Mae bysiau ym Mhowys yn gweithredu ar sail "codi dwylo a theithio" a byddant yn aros i godi neu ollwng teithwyr mewn unrhyw le (y tu allan i'r trefi), ac nid yw'r gwasanaeth yma wedi'i gyfyngu i arosfannau bysiau. Cofiwch fod angen ystyried y rhagofalon arferol ar gyfer diogelwch ar y ffordd, a pheidiwch â chodi llaw ar y bws oni bai fod yna le diogel iddo aros.
Dylech roi gwybod i'r cwmni, gan anfon copi at y Cyngor Sir, os oes gennych unrhyw gwyn am wasanaethau bws anghyson, neu ymddygiad gyrrwr bws.
Rydym yn croesawu awgrymiadau ynglyn â sut y gallwn wella ein gwasanaethau bysiau a threnau.
Bws - Traveline Cymru
Mynd i'r Cynllunydd Teithiau
- Mynd i fap gydag amseroedd ymadael
- Gwefan: www.traveline.cymru
- Ffôn: 0800 464 0000
- I gwyno am wasanaethau bysiau e-bost wales@bususers.org
Trên - National Rail Enquiries
- Gwefan: www.nationalrail.co.uk
- Ffôn: 08457 484 950
- Ar gyfer cwynion am wasanaethau trenau e-bost hello@passengerfocus.org.uk
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma