Gorfodi Cynllunio
Mae Rheoli Datblygu yn ymchwilio i achosion posibl o dorri rheolaeth gynllunio a'i nod yw datrys y rhain gan ddefnyddio'r dull neu'r camau mwyaf priodol. Mae'r tîm Rheoli Datblygu yn gyfrifol am orfodi rheolaeth ar gyfer yr holl faterion cynllunio gan gynnwys mwynau yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Powys (ac eithrio Ardaloedd y Parc Cenedlaethol).
Beth yw torri rheolaeth gynllunio?
Diffinnir torri rheolaeth gynllunio yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel:
"cyflawni datblygiad heb y caniatâd cynllunio gofynnol neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer yn ddarostyngedig i hynny".
Enghreifftiau o dorri rheolaeth gynllunio:
- Gwaith adeiladu, gwaith peirianyddol a newidiadau defnydd sylweddol, a gyflawnir heb ganiatâd cynllunio, lle mae angen caniatâd cynllunio
- Datblygiad sydd â chaniatâd cynllunio ond nad yw'n cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd
- Methu â chydymffurfio ag amodau neu delerau cytundeb cyfreithiol sydd ynghlwm wrth ganiatâd neu gydsyniad
- Hysbysebion sy'n gofyn am ganiatâd penodol o dan y Rheoliadau Hysbysebu, ond sy'n cael eu harddangos heb i'r caniatâd gael ei roi *
- Gwaith dymchwel o fewn ardal gadwraeth, heb gydsyniad ardal gadwraeth, pan fydd ei angen*
- Gwaith a wneir i adeilad "rhestredig", sy'n effeithio ar ei gymeriad neu leoliad hanesyddol, heb i ganiatâd adeilad rhestredig gael ei roi*
- Methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad cyfreithiol cynllunio ee hysbysiad gorfodi, terfynu, stopio, ac ati*
* Mae'r eitemau hyn yn drosedd.
Ni fydd y Cyngor yn cymryd rhan mewn materion sy'n anghydfodau rhwng cymdogion yn unig ac ni allant gymryd rhan mewn anghydfodau sy'n ymwneud â therfynau.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnom wrth wneud cwyn?
- Bydd arnom angen union leoliad y safle neu'r eiddo y mae'r gwyn yn ymwneud ag ef
- Union natur y pryder h.y. y toriad posibl ar reolaeth gynllunio
- Hunaniaeth y person / sefydliad sy'n gyfrifol a'r dyddiad a / neu'r amser y dechreuodd y toriad
- Mae angen manylion yr achwynydd (enw a chyfeiriad ac ati) hefyd gan na dderbynnir cwynion anhysbys. Os nad ydych am ddatgelu'ch manylion, yna gallwch gysylltu â'ch cynghorydd lleol a gofyn iddo ef/iddi hi gyflwyno'r gwyn ar eich rhan
- Rhaid i bob cwyn sy'n ymwneud ag achosion posibl o dorri rheolaeth gynllunio gael ei chyflwyno gyda'r ffurflen gwyno orfodol er mwyn i ymchwiliad fynd yn ei flaen.
Gorfodi Cynllunio - Cwestiynau Cyffredin
Sut i wneud Cwyn
Ffurflen Gwyno am Orfodi Cynllunio Ffurflen Gwyno am Orfodi Cynllunio
Rhowch wybod i ni os hoffech i ni ymchwilio i achos posib o dorri rheolaeth gynllunio trwy lenwi'r Ffurflen Gwyno am Orfodi Cynllunio (Word doc) [58KB] orfodol. Ar ôl ei chwblhau dylid anfon hon at:
planning.enforcement@powys.gov.uk
neu trwy'r post i'r:
Gwasanaethau Cynllunio, Neuadd Sir Powys, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG
Beth sy'n digwydd i'ch cwyn?
- Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn cyn pen pum diwrnod gwaith os rhoddir cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost
- Byddwn yn ymdrechu i'ch hysbysu cyn pen 84 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cwyn sut mae'r Cyngor yn bwriadu delio â'r mater
- Mae rhagor o wybodaeth a siart llif am y broses gorfodi ar gael drwy Llawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru .
- Mae Polisi a Gweithdrefn Gorfodi Cyngor Sir Powys ar gael trwy'r ddolen ganlynol. (insert hyperlink once completed)
Cyfrinachedd a Diogelu Data
Gwneir pob ymdrech i gadw hunaniaeth yr achwynydd yn gyfrinachol. Sylwch na fydd cwynion anhysbys yn cael eu hymchwilio.
Cyngor Sir Powys yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu. Defnyddir eich gwybodaeth wrth ymarfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw bwrpas arall. Ni fyddwn yn rhannu eich data â thrydydd parti oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Mae cyfraith diogelu data yn disgrifio'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen ar gyfer cyflawni tasg gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol ar ein gwefan.