Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorfodi Cynllunio - Cwestiynau Cyffredin

Beth mae 'datblygiad' yn ei olygu?

Mae Adran 55 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (deddfwriaeth.gov.uk) yn diffinio datblygiad fel "cyflawni gwaith adeiladu, peirianneg, mwyngloddio neu weithrediadau eraill mewn, ar, dros neu o dan dir, neu wneud unrhyw newid sylweddol yn y defnydd o unrhyw adeiladau neu dir arall."

Beth mae 'torri rheolau cynllunio' yn ei olygu?

Yn ei hanfod os ydych yn:

  • adeiladu rhywbeth heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol;
  • cael caniatâd cynllunio ond yn methu â chydymffurfio â'r amodau neu'r cyfyngiadau ynghlwm â'r caniatâd hwnnw;
  • methu â chadw at yr amodau llym sy'n berthnasol i ddatblygiad a ganiateir;

yna rydych mewn perygl o dorri rheolau cynllunio a gellir cymryd camau gorfodi.

Mae'n werth cofio hefyd nad yw torri rheolau cynllunio yn berthnasol i'r hyn a gaiff ei adeiladu yn unig, gall hefyd fod yn berthnasol i'r defnydd a wneir o adeilad.

Os oes tor-rheol annerbyniol wedi digwydd, pa gamau y gellir eu cymryd?

Os gwelwn fod tor-rheol cynllunio wedi digwydd a'i fod yn achosi niwed, gallwn:

  • Ofyn am wneud newidiadau i'r datblygiad fel ei fod yn dderbyniol yn nhermau cynllunio
  • Gofyn bod manylion sy'n ofynnol trwy amod cynllunio yn cael eu cyflwyno neu eu gweithredu
  • Gofyn am gyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol i reoleiddio'r safle (bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ymgynghori ar y datblygiad a gallwn osod rheolaethau drwy ddefnyddio amodau)
  • Gofyn i waith adeiladu ddod i ben neu fod defnydd heb awdurdod yn dod i ben

Sut ydw i'n osgoi'r posibilrwydd o dor-rheol?

  • Efallai na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer rhai estyniadau i eiddo preswyl. Gall ddibynnu ar sawl ffactor, megis maint ac uchder yr estyniad, y sefyllfa mewn perthynas â'r ffordd ac a fu estyniadau blaenorol i'r eiddo. Ewch i'r dudalen cynllunio-arweiniad-i- ddeiliaid-tai.pdf (llyw.cymru) am ragor o wybodaeth.
  • Bydd y swyddog cynllunio ar ddyletswydd yn cynnig cyngor a chymorth cynllunio cyffredinol am ddim. Gweler y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth Swyddog ar Ddyletswydd - Cyngor Sir Powys
  • Gellir gofyn am gyngor cyn ymgeisio ar gyfer cynigion prosiect penodol. Rhaid i ymholiadau o'r fath ddefnyddio'r gwasanaethau Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio sydd ar gael ar wefan y Cyngor
  • Sicrhewch eich bod yn darllen unrhyw hysbysiad cymeradwyo penderfyniad yn ofalus, a sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r cynlluniau cymeradwy ac unrhyw amodau penodol.
  • Peidiwch â dechrau'r gwaith nes bod yr holl amodau cyn cychwyn wedi cael eu cytuno'n ffurfiol drwy wneud cais am ollwng amod Gwneud cais am ganiatâd cynllunio - Cyngor Sir Powys

Beth sy'n digwydd i'ch cwyn / pryd y byddaf yn cael fy niweddaru?

  • Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn o fewn pum niwrnod gwaith os darperir cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost.
  • Byddwn yn ymdrechu i'ch hysbysu o fewn 84 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cwyn sut mae'r Cyngor yn bwriadu mynd ar drywydd y mater. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr Awdurdod yn ymchwilio i'r gŵyn i lywio ei benderfyniad ynghylch a yw camau ffurfiol yn briodol.
  • Mae mwy o wybodaeth a siart llif am y broses orfodi ar gael yn Llawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru.
  • Mae Polisi a Gweithdrefn Gorfodi Cyngor Sir Powys ar gael o fewn y ddolen ganlynol: Polisi a Gweithdrefn Gorfodi Cynllunio

A fydd fy manylion yn cael eu cadw'n gyfrinachol?

Byddwn yn cadw'ch manylion yn gyfrinachol yn ystod yr ymchwiliad. Fodd bynnag, bydd unrhyw sylwadau a wnewch ar unrhyw gais cynllunio ar ffeil gyhoeddus. Efallai y bydd yn rhaid i ni ddatgelu eich manylion hefyd os bydd yn rhaid i ni fynd i'r llys i gymryd camau cyfreithiol. Fodd bynnag, byddwn yn siarad â chi am hyn yn gyntaf os yw'n angenrheidiol.

Bydd fy swyddog gorfodi yn ymweld, beth ddylwn i ei wneud?

Gwerthfawrogwn ei fod yn swnio'n eithaf brawychus, ond mae gan orfodaeth rôl er budd y cyhoedd ac er mwyn annog datblygiad cadarnhaol sydd o fudd i amwynder lleol.

Os bydd swyddog gorfodi yn ymweld â'ch eiddo, yr hyn y mae'n ceisio ei wneud yw asesu os oes tor-rheolaeth cynllunio wedi digwydd. Os mai dyna'r achos, byddant am ddeall maint y niwed y gallai'r tor-rheolaeth fod yn ei achosi. Os oes niwed yn cael ei achosi, yna byddant yn ceisio rheoleiddio'r sefyllfa.

Mae bob amser yn arfer da ymgysylltu â'ch swyddog gorfodi a bod mor onest ag y gallwch gyda nhw.  Drwy fod yn ymatebol ac yn ddefnyddiol, mae'n dangos eich bod yn awyddus i gywiro neu unioni tor-rheolaeth cynllunio, os oes un wedi digwydd, a allai fod o gymorth i'ch achos.

O dan ba amgylchiadau y byddai'r cyngor yn gweithredu yn erbyn tor-rheolaeth cynllunio?

Mae pwerau gorfodi cynllunio yn bwerau dewisol sydd ar gael i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), ond wrth ystyried unrhyw gamau gorfodi, y mater allweddol i'r ACLl yw a fyddai'r tor-rheolaeth yn effeithio'n annerbyniol (niweidiol) ar amwynder cyhoeddus.

Dylai camau gorfodi hefyd fod yn gymesur â'r achos o dor-rheolaeth cynllunio y mae'n ymwneud ag ef ac yn cael ei gymryd pan fydd yn fuddiol gwneud hynny.

Felly ni fydd yn fuddiol i hysbysiad Gorfodi gael ei gyhoeddi lle:

  1. Daeth asesiad o'r tor-rheol i'r casgliad bod y niwed sy'n deillio o hyn yn ddibwys neu'n 'de minimis'.
  2. Cyflwynwyd cais ôl-weithredol i reoleiddio'r datblygiad anawdurdodedig ac fe'i cymeradwywyd wedyn gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
  3. Mae'r tor-rheol yn ddim mwy nag amrywiad bychan o'r hyn a fyddai wedi cael ei ganiatáu yn rhinwedd Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 ac fel y'i diwygiwyd yn 2013 (neu fel y'i diwygiwyd wedi hynny).
  4. Roedd y niwed dros dro ac mae eisoes wedi dod i ben.
  5. Trafodir safle arall a chytunir ar amserlen glir i'r datblygiad adleoli.

Beth yw 'niwed'?

Gallai niwed sylweddol sy'n deillio o dor-rheolaeth cynllunio effeithio ar amwynder preswyl neu faterion diogelwch priffyrdd. Gall enghreifftiau o niwed sylweddol gynnwys niwsans sŵn, colli golau dydd neu breifatrwydd, neu berygl o lif traffig cynyddol.

NID yw'r canlynol yn enghreifftiau o niwed:

  • Colli gwerth i eiddo cyfagos
  • Cystadleuaeth i fusnes arall
  • Colli golygfa unigolyn neu dresbasu ar lôn rhywun arall.

Efallai y bydd yn bosibl mynd i'r afael â materion fel y rhain drwy weithredu sifil, er bod hwn yn fater i'r unigolyn ei ddilyn ac nid yw'n faes lle byddem yn cymryd rhan.

Beth yw hysbysiad torri rheolau cynllunio?

Nid yw hwn yn hysbysiad gorfodi ffurfiol ond mae'n rhagflaenydd posibl i orfodi.  Felly, mae'n hanfodol eich bod yn ymateb yn gyflym ac yn gywir o fewn yr amserlen a nodir yn eich hysbysiad.

Gellir defnyddio hysbysiad torri rheolau cynllunio i wneud y canlynol:

  • caniatáu i'r awdurdod cynllunio lleol fynnu bod unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei heisiau at ddibenion gorfodi ynghylch unrhyw weithrediadau sy'n cael eu cyflawni; unrhyw ddefnydd o; neu unrhyw weithgareddau sy'n cael eu cynnal ar y tir, a;
  • gellir ei ddefnyddio i wahodd ei dderbynnydd i ymateb yn adeiladol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch sut y gall unrhyw achos posibl o dorri rheolau cynllunio gael ei gywiro'n foddhaol.

Pam fod ymgysylltiad cynnar mor bwysig?

Os bydd y tîm gorfodi yn cysylltu â chi, yna peidiwch â'i anwybyddu.  Mae ymgysylltu cynnar yn allweddol i geisio datrys unrhyw achos o dor-rheol canfyddedig yn gyflym.

Mae gorfodaeth yn ddewisol a'i fwriad yw adfer sefyllfa.  Gall ymgysylltu â'r tîm gorfodi'n gadarnhaol ganiatáu trafodaethau i gyflawni gwaith adfer i gywiro unrhyw dor-rheol mewn ymgais i osgoi camau gorfodi ffurfiol.

A allaf apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi?

Gallwch, fel rhan o'r broses orfodi bydd amserlen benodol i apelio yn erbyn yr hysbysiad gorfodi. Ar eich hysbysiad gorfodi, bydd gennych gyfnod o amser yn nodi pryd y gallwch apelio cyn i'r hysbysiad ddod i rym.

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) fydd yn ymgymryd â'r apêl.

Ceir rhagor o wybodaeth ar y ddolen ganlynol: Apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi cynllunio | LLYW. CYMRU