Strategaeth Trawsnewid Addysg

Mae Cyngor Sir Powys wedi cwblhau ei adolygiad strategol o faes Addysg.
Yn dilyn yr Adolygiad Strategol o Addysg ym Mhowys a gynhaliwyd yn ystod tymor yr hydref 2019 a thymor y gwanwyn 2020, lansiodd y cyngor Strategaeth newydd ar gyfer Trawsnewid Addysgu ym Mhowys 2020-2030.
Mae'r strategaeth deg mlynedd uchelgeisiol ym Mhowys yn cynnwys gweledigaeth gryfach ac egwyddorion arweiniol, ac mae'n sefydlu blaenoriaethau'r cyngor dros y deng mlynedd nesaf, a fydd yn canolbwyntiio ar bedwar nod strategol:
- Gwella hawl a phrofiad y dysgwr
- Gwella hawl a phrofiad dysgwyr ol-16
- Gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr holl gyfnodau allweddol
- Gwella'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr gydag anghenion addysg arbennig / anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys ymrwymiad i raglen buddsoddi cyfalaf mawr er mwyn sicrhau bod adeiladau cynaliadwy amgylcheddol, ysbrydoledig ar gael i ysgolion ym Mhowys sy'n gallu darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau i'r gymuned ehangach.
Gallwch lawrlwytho copi o'n Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys isod:
Sut y gwnaethom gyflawni'r daith?
Yn ystod tymor yr hydref 2019 a thymor y gwanwyn 2020, bu'r cyngor wrthi'n cynnal dau gam ymgysylltu fel rhan o'i Adolygiad Strategol o Addysg ym Mhowys.
Cam 1
Yn ystod tymor yr hydref 2019, bu'r cyngor yn ymgysylltu â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys penaethiaid, llywodraethwyr, staff ysgolion, cynghorwyr sir, staff y Gwasanaeth Addysg a chynghorau tref a chymuned, i nodi'r heriau sy'n wynebu addysg ym Mhowys. Roedd yr ymarfer ymgysylltu yn cynnwys rhannu data am seilwaith ysgolion Powys. I weld y data diweddaraf, dilynwch y ddolen hon.
Mae'r dogfennau isod yn cynnwys canfyddiadau'r gwaith ymgysylltu a wnaed dros dymor yr Hydref:
Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, mae'r cyngor wedi paratoi dogfen Achos dros Newid sy'n nodi'r prif heriau i wynebu addysg yn y sir. Mae'r ddogfen yma isod:
Ystyriwyd a chymeradwywyd y dogfennau hyn a dogfen ddrafft yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer addysg ym Mhowys gan Gabinet y cyngor ym mis Ionawr 2020, a chymeradwyodd y Cabinet rhagor o waith ymgysylltu ar y ddogfen weledigaeth.
Cam 2
Rhwng Chwefror a Mawrth 2020, cynhaliodd y cyngor ail gyfnod o ymgysylltu ar ei weledigaeth oedd yn esblygu ac egwyddorion arweiniol ar gyfer addysg ym Mhowys. Roedd y cyfnod ymgysylltu hwn yn seiliedig ar y ddogfen ganlynol:
Dadansoddwyd yr ymatebion yn ystod y cyfnod ymgysylltu a lluniwyd adroddiad ymgysylltu sy'n crynhoi'r ymatebion. Mae hwn ar gael isod:
Diweddarwyd y ddogfen 'Gweledigaeth ar gyfer Addysg' yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, ac esblygwyd i greu'r ddogfen 'Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030'.