Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Cedewain

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar ysgol newydd, bwrpasol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gyda darpariaeth arbenigol ar gyfer y chweched dosbarth a'r blynyddoedd cynnar yn Y Drenewydd ym mis Gorffennaf 2022. 

Bydd yr Ysgol yr 21ain Ganrif bwrpasol newydd ar gyfer Ysgol Cedewain yn cynnwys pwll hydrotherapi, 2 ystafell synhwyraidd, ystafell adlamu, gardd, caffi cymunedol a llawer mwy. Bydd y prosiect hefyd yn darparu cyfleusterau allanol i'w rhannu rhwng Ysgol Cedewain ac Ysgol G.G. Maesyrhandir.

Disgwylir i'r adeilad newydd gael ei gwblhau yn Hydref 2023, gyda'r gwaith i ddymchwel yr hen adeilad a chreu cyfleusterau chwaraeon awyr agored i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024.

Mae'r buddsoddiad o hyd at £22 miliwn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys. 

Mae'r ysgol yn cael ei darparu gan Bowys a'i hadeiladu gan Wynne Construction.