Strategaeth Powys Ddigidol: Erthyglau Newyddion
Isod mae rhai straeon sy'n tynnu sylw at brosiectau sydd eisoes ar waith i groesawu technoleg ddigidol. Gallwch weld y straeon newyddion yma.
Lansio cyfeirlyfr mannau cynnes
Mae cyfeirlyfr sy'n rhestru llefydd a all gynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn wedi cael ei lansio gan y cyngor sir
Cyngor yn ei gwneud hi'n haws ymgeisio am swyddi gofal a chymorth
Mae Cyngor sir Powys wedi cyflwyno proses recriwtio hawdd newydd ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swydd fel Gweithiwr Ailalluogi a Chymorth Gofal.
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) i gyflymu talu grantiau costau byw
Mae datblygwyr sy'n gweithio i Gyngor Sir Powys yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) i sicrhau fod y sawl sydd angen cymorth costau byw yn ei dderbyn mor gyflym â phosibl.
Cysylltiadau â band eang gwibgyswllt yn y flwyddyn newydd ar gyfer tri chynllun ym Mhowys
Bydd trigolion Powys sydd wedi ymuno â thri chynllun band eang cymunedol - Llanfan Fawr a Llanwrthwl, Aberedw a Glascwm, a Dwyriw a Manafon - yn cael eu gwibgysylltiadau ffibr yn y flwyddyn newydd.
Dweud eich dweud ar ddatblygu hybiau cymunedol yn llyfrgelloedd Powys
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cynnal ymchwil ar sut y byddai'n bosibl helpu trigolion i ddefnyddio technoleg a gwasanaethau digidol, trwy ddatblygu hybiau cymunedol a fyddai'n cynnig cymorth a lle i weithio o bell.
iPads ar gael i'w benthyg o lyfrgelloedd Powys
Gall trigolion Powys fenthyg iPad am ddim o'u llyfrgell leol, diolch i gefnogaeth gan Gronfa'r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.