Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig

Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cefnogi unigolion o bob oed sydd ag Awtistiaeth, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae cydweithio'n hollbwysig i'r gwasanaeth newydd hwn. Mae'n cynnwys tai ac addysg, yn ogystal â gofal iechyd a chymdeithasol, y trydydd sector, defnyddwyr y gwasanaeth, teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth eang o bartneriaid.

Mae cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys wrth wraidd y bartneriaeth hon.

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys yn cynnig y canlynol:

  • Asesiadau diagnostig ar gyfer oedolion
  • Cefnogaeth i oedolion gyda diagnosis o Awtistiaeth a'r rheiny sy'n gofalu amdanynt
  • Cefnogaeth i blant a phobl ifanc gyda diagnosis o Awtistiaeth a'r rheiny sy'n gofalu amdanynt
  • Cefnogaeth i weithwyr proffesiynol

Nid yw Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys yn cynnig neu'n cefnogi'r canlynol:

  • Pobl heb ddiagnosis ffurfiol
  • Pobl ag Anabledd Dysgu
  • Pobl sy'n derbyn cefnogaeth Iechyd Meddwl
  • Asesiadau diagnostig o Awtistiaeth i bobl dan ddeunaw oed
  • Gofal brys