Peilot Cofrestru Awtomatig
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig. Mae Powys yn un o bedwar awdurdod lleol ar draws Cymru sy'n cymryd rhan mewn cynlluniau peilot i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gan helpu i wneud y broses o gymryd rhan mewn democratiaeth yn fwy hygyrch a chynhwysol.
Defnyddir y data i adnabod pleidleiswyr cymwys a'u cofrestru'n awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru, gan ei gwneud y genedl ddatganoledig gyntaf yn y DU i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Bydd darpar etholwyr a chaiff eu hadnabod drwy'r peilot yn derbyn llythyrau yn eu hysbysu ac yn esbonio'r broses a'u hopsiynau.
Mae hyn ar gyfer etholiadau'r Senedd a Lleol YN UNIG.
Ydych chi'n gymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol
- Rydych yn 16 oed o leiaf (ond gallwch gofrestru os ydych chi'n 14 oed o leiaf).
- Rydych chi'n byw yng Nghymru.
- Rydych chi'n ddinesydd Prydeinig. Gwyddelig neu'r UE, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad, neu'n ddinesydd tramor cymwys.
Bydd angen i chi ddal gofrestru ar wahân ar gyfer mathau eraill o etholiadau, gan gynnwys etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Byddem yn eich annog i fynd i Cofrestru i bleidleisio - GOV.UK cyn gynted â phosibl.
Trwy gwblhau cais ar-lein, byddwch:
- wedi eich cofrestru i bleidleisio ar gyfer pob etholiad sydd gennych hawl i wneud hynny;
- yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol yn gynt;
- yn gallu pleidleisio mewn unrhyw is-etholiadau a allai ddigwydd cyn cofrestru'n awtomatig, ar yr amod bod eich cais yn cael ei wneud 12 diwrnod gwaith cyn yr isetholiad; ac
- yn rhoi stop ar unrhyw ohebiaeth bellach yn gofyn i chi gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a CSP.
Gall eich statws credyd gael ei effeithio trwy beidio â chael eich cynnwys ar gofrestr etholwyr.
ARP info

Ydych chi'n gymwys ar gyfer cofrestru Di-enw?
Mae cofrestru'n ddi-enw yn caniatau i chi bleidleisio gan gadw'ch enw a'ch cyfeiriad oddi ar y gofrestr. Mae hyn yn diogelu'ch preifatrwydd os gallai cael eich manylion chi ar y gofrestr roi eich diolegwch chi (neu ddiogelwch rhywun yn eich cartref) mewn perygl.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Ydych chi'n gymwys ar gyfer cofrestru Di-enw? )
Eich Hawliau a'ch dewisiadau
Gallwch optio allan o gofrestru awtomatig, ond efallai y bydd dal angen i chi gofrestru yn nes ymlaen os ydych yn gymwys oherwydd yn ôl y gyfraith, bydd yn rhaid i ni anfon gwahoddiad atoch i gofrestru o fewn 28 diwrnod calendr o'ch dynodi fel darpar etholwr ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Eich Hawliau a'ch dewisiadau)