Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrif i lawr i Tour de France 2027

Countdown to Tour De France 2027

Croesawu'r Tour de France i Bowys ym mis Gorffennaf 2027

Mae Powys yn falch o chwarae rhan ganolog yn Grand Départ Tour de France 2027, wrth i Gymal Tri ras y dynion gychwyn o'r Trallwng ddydd Sul 4 Gorffennaf cyn gorffen yng Nghaerdydd.

Bydd y llwybr yn arddangos rhai o dirweddau mwyaf trawiadol Cymru, gan gynnwys dringfeydd heriol a golygfeydd eiconig, gan gynnwys llawer ar draws ein sir ein hunain.

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd bopeth sydd angen i chi ei wybod, gyda dolenni defnyddiol i wybodaeth allweddol, diweddariadau ac adnoddau am y digwyddiad, gan gynnwys:

  • manylion ac amseroedd y llwybr
  • cau ffyrdd a chyngor teithio
  • cyfleoedd cymunedol a gwirfoddoli
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol a
  • chanllawiau i ymwelwyr

Edrychwch ar yr adrannau isod i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd fwyaf perthnasol i chi.

Rhannwch y dudalen hon