Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cynhyrchion Mislif am Ddim

Hey girls logo

Hey girls logo
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Powys yn gweithio i hybu urddas y mislif. 

Er mwyn cefnogi merched a menywod o bob oed, mae Comisiynu Plant Powys yn cynnig gwasanaeth dosbarthu i'r cartref am ddim, a weithredir gan y fenter gymdeithasol wobrwyedig, Hey Girls. Mae hyn yn ychwanegol at nwyddau mislif sydd eisoes ar gael mewn ysgolion.

Fel rhan o'r dyfarniad ariannu, mae'n ofynnol i ni gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethu'n llawn, sef yn ôl Llywodraeth Cymru, cymunedau sy'n cynnwys Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl anabl a LHDT+. Dylech ystyried hyn wrth gyflwyno eich cais.

Pecynnau Cartref Powys - Hey Girls

Mae cynnyrch misglwyf ar gael i ddisgyblion trwy swyddfa'r ysgol neu'r aelod staff dynodedig ym mhob ysgol. Mae'r cynnyrch hefyd ar gael o beiriannau heb gost mewn ysgolion uwchradd. I ganfod mwy am gymorth urddas mislif yn yr ysgol i ddisgyblion, cysylltwch â: education@powys.gov.uk

Mae cynnyrch misglwyf ar gael i ddisgyblion trwy swyddfa'r ysgol neu'r aelod staff dynodedig ym mhob ysgol.

Mae'r cynnyrch hefyd ar gael o beiriannau heb gost mewn ysgolion uwchradd. I ganfod mwy am gymorth urddas mislif yn yr ysgol i ddisgyblion, cysylltwch â: education@powys.gov.uk

Mae 'Hei Ferched / Hey Girls' yn gynllun ffantastig sy'n cefnogi urddas mislif, fodd bynnag, dim ond nifer cyfyngedig o nwyddau sydd ar gael ac rydyn ni wirioneddol angen i'r nwyddau fod ar gael i'r rheini sydd â'r angen fwyaf amdanyn nhw. Dim ond os oes angen y nwyddau arnoch chi y dylech chi ofyn amdanyn nhw a heb fod gennych unrhyw fodd o gael gafael arnyn nhw.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu