Cynhyrchion Mislif am Ddim
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Powys yn gweithio i hybu urddas y mislif.
Er mwyn cefnogi merched a menywod o bob oed, mae Comisiynu Plant Powys yn cynnig gwasanaeth dosbarthu i'r cartref am ddim, a weithredir gan y fenter gymdeithasol wobrwyedig, Hey Girls. Mae hyn yn ychwanegol at nwyddau mislif sydd eisoes ar gael mewn ysgolion.
Fel rhan o'r dyfarniad ariannu, mae'n ofynnol i ni gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethu'n llawn, sef yn ôl Llywodraeth Cymru, cymunedau sy'n cynnwys Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl anabl a LHDT+. Dylech ystyried hyn wrth gyflwyno eich cais.
Pecynnau Cartref Powys - Hey Girls
Mae cynnyrch misglwyf ar gael i ddisgyblion trwy swyddfa'r ysgol neu'r aelod staff dynodedig ym mhob ysgol. Mae'r cynnyrch hefyd ar gael o beiriannau heb gost mewn ysgolion uwchradd. I ganfod mwy am gymorth urddas mislif yn yr ysgol i ddisgyblion, cysylltwch â: education@powys.gov.uk
Mae cynnyrch misglwyf ar gael i ddisgyblion trwy swyddfa'r ysgol neu'r aelod staff dynodedig ym mhob ysgol.
Mae'r cynnyrch hefyd ar gael o beiriannau heb gost mewn ysgolion uwchradd. I ganfod mwy am gymorth urddas mislif yn yr ysgol i ddisgyblion, cysylltwch â: education@powys.gov.uk
Mae 'Hei Ferched / Hey Girls' yn gynllun ffantastig sy'n cefnogi urddas mislif, fodd bynnag, dim ond nifer cyfyngedig o nwyddau sydd ar gael ac rydyn ni wirioneddol angen i'r nwyddau fod ar gael i'r rheini sydd â'r angen fwyaf amdanyn nhw. Dim ond os oes angen y nwyddau arnoch chi y dylech chi ofyn amdanyn nhw a heb fod gennych unrhyw fodd o gael gafael arnyn nhw.