Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Cynhyrchion Mislif am Ddim

Hey girls logo

Hey girls logo
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Powys yn gweithio i hybu urddas y mislif. 

Er mwyn cefnogi merched a menywod o bob oed, mae Comisiynu Plant Powys yn cynnig gwasanaeth dosbarthu i'r cartref am ddim, a weithredir gan y fenter gymdeithasol wobrwyedig, Hey Girls. Mae hyn yn ychwanegol at nwyddau mislif sydd eisoes ar gael mewn ysgolion.

Pecynnau Cartref Powys - Hey Girls

Mae cynnyrch misglwyf ar gael i ddisgyblion trwy swyddfa'r ysgol neu'r aelod staff dynodedig ym mhob ysgol. Mae'r cynnyrch hefyd ar gael o beiriannau heb gost mewn ysgolion uwchradd. I ganfod mwy am gymorth urddas mislif yn yr ysgol i ddisgyblion, cysylltwch â: education@powys.gov.uk

Mae cynnyrch misglwyf ar gael i ddisgyblion trwy swyddfa'r ysgol neu'r aelod staff dynodedig ym mhob ysgol.

Mae'r cynnyrch hefyd ar gael o beiriannau heb gost mewn ysgolion uwchradd. I ganfod mwy am gymorth urddas mislif yn yr ysgol i ddisgyblion, cysylltwch â: education@powys.gov.uk

Mae 'Hei Ferched / Hey Girls' yn gynllun ffantastig sy'n cefnogi urddas mislif, fodd bynnag, dim ond nifer cyfyngedig o nwyddau sydd ar gael ac rydyn ni wirioneddol angen i'r nwyddau fod ar gael i'r rheini sydd â'r angen fwyaf amdanyn nhw. Dim ond os oes angen y nwyddau arnoch chi y dylech chi ofyn amdanyn nhw a heb fod gennych unrhyw fodd o gael gafael arnyn nhw.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu