Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Trethi Busnes: Eiddo Masnachu Gwag

Bydd rhai eiddo gwag ddim yn gorfod talu trethi busnes.

Bydd eiddo gwag sydd â gwerth ardrethol yn llai na £2,600 ddim yn gorfod talu Trethi Busnes.

Os yw'r eiddo'n uned ddiwydiannol, ni fydd rhaid talu Trethi Busnes am 6 mis o ddyddiad gadael.  Pan ddaw'r 6 mis hwnnw i ben, bydd rhaid talu'r trethi'n llawn.

Os yw'r eiddo'n uned anniwydiannol, ni fydd rhaid talu Trethi Busnes am 3 mis o'r dyddiad gadael.  Pan ddaw'r 3 mis hwnnw i ben, bydd rhaid talu'r trethi'n llawn.

Yn dilyn y newidiadau a wnaed i'r rheolau o 1af Ebrill 2022, bydd yn newid y  ddeddfwriaeth bresennol o ran hyd y cyfnod meddiannu cyn y gellir ail-gyflwyno eithriad am le gwag.  Felly o 1 Ebrill 2022, bydd hereditament sydd wedi bod yn wag, ac yn cael ei feddiannu ar unrhyw ddiwrnod, i'w drin fel wedi bod yn wag yn barhaus os daw'n wag eto ar ddiwedd cyfnod llai na 26 wythnos, yn cychwyn ar y diwrnod hwnnw.

Eiddo na fydd yn gorfod talu treth oherwydd eu bod yn wag:

  • Os yw'r perchennog â hawl i'r eiddo dim ond fel cynrychiolydd personol rhywun sydd wedi marw.
  • Os yw'r perchennog yn ddiddymwr neu'n ymddiriedolwr dan weithred gymodi neu fod y perchennog wedi derbyn gorchymyn methdalu, neu'n gwmni sy'n destun gorchymyn dirwyn i ben neu orchymyn gweinyddu.
  • Os yw'r eiddo'n adeilad rhestredig neu'n destun rhybudd cadw adeilad neu wedi'i restru'n heneb.
  • Os yw eiddo'n wag oherwydd bod y Goron neu unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn cymryd camau i rwystro rhywun rhag meddiannu neu gael eu dwylo ar yr adeilad.
  • Os yw'r gyfraith yn gwahardd ei feddiannu.
  • Eiddo gwag sy'n berchen i, ac yn debygol o gael eu defnyddio nesaf gan elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol.

 

Cysylltiadau

  • Ffôn: 01597 827463  (oriau agor y swyddfa 9am - 1pm Llun - Gwe)

    Y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig.  Ein nod yw cael digon o staff ar gael yn ystod yr oriau hyn i helpu i wella'r amser y mae'n cymryd i ateb galwadau.
  • E-bost: revenues@powys.gov.uk
  • Ysgrifennwch aton ni yn: Neuadd Sir Powys, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu