Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor a Dyfarniadau (budd-daliadau) ar gau ddydd Gwener 13 Mawrth 2026 oherwydd diweddariad i'r system.

Casglu gwastraff o'r ardd

Mae tanysgrifiadau ar gyfer tymor gwastraff gardd o ymyl y ffordd 2026 bellach ar agor.

Tanysgrifiwch nawr er mwyn cael budd o fanteision gwasanaeth casglu hawdd, glân a syml i ailgylchu gwastraff o'r ardd. Mae gennym finiau  240 litr neu 140 litr ar olwynion, neu sachau gwastraff o'r ardd y gellir eu compostio i'r rheiny y bydd eu sbwriel yn cael ei gasglu mewn bagiau porffor.

Bydd tanysgrifwyr cynnar sy'n cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd 2026 cyn diwedd mis Mawrth yn gallu gwneud hynny am yr un pris â'r llynedd (£60 am fin olwynion 240 litr, neu £55 am fin olwynion 140 litr neu sachau compostadwy). O fis Ebrill, ar ôl cymeradwyo cyllideb y cyngor, disgwylir y bydd y costau yn codi gyda'r gyfradd chwyddiant i £62 a £57 yn y drefn honno.

Gofyn am Gasgliadau Gwastraff Gardd Gofyn am Gasgliadau Gwastraff Gardd

Cwsmeriaid presennol, os oeddech chi wedi tanysgrifio yn 2025 a symudoch dŷ cyn i ni ailagor tanysgrifiadau ym mis Chwefror, darllenwch yr adran Symud Tŷ ymhellach i lawr y dudalen a dilynwch y cyfarwyddiadau sy'n berthnasol i chi ail-danysgrifio.

  • casglu hawdd a diffwdan bob pythefnos o'ch cartref   
  • ffordd lân a thaclus o reoli eich gwastraff o'r ardd
  • ffordd syml o helpu'r amgylchedd

Bydd y casgliadau yn digwydd bob pythefnos trwy gydol y tymor, fel arfer o fis Mawrth hyd fis Tachwedd.

Rydym yn cynnig sachau papur 45 litr y gellir eu compostio, neu finiau 140 litr a 240 litr i storio'ch gwastraff tan y diwrnod casglu.

Mae casgliadau â chymorth ar gael ar gyfer preswylwyr cymwys, a byddant yn awtomatig os ydych chi yn eu cael eisoes ar gyfer ailgylchu neu gasgliadau gwastraff gweddilliol.

Os gwelwch yn dda
*Dail
*Toriadau glaswellt
*Blodau
*Canghennau a Brigau
*Sglodion a Rhisgl Coed                                                                  

Dim Diolch
*Gwastraff o'r Gegin - defnyddiwch eich blwch bwyd gwyrdd
*Bagiau plastig - defnyddiwch eich bin olwynion neu sachau porffor
*Gwastraff Cyffredinol - defnyddiwch eich bin ar olwynion neu'r sachau porffor
*Gwastraff neu wasarn anifeiliaid anwes /anifeiliaid - defnyddiwch eich bin ar olwynion neu sachau porffor
*Pridd a Rwbel - ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu agosaf
*Boncyffion Coed - ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu agosaf atoch chi
*Rhywogaethau Goresgynnol - cyfeiriwch at ganllawiau diweddaraf y llywodraeth ar rywogaethau goresgynnol i helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol 

Nid yw'r rhestrau uchod yn holl gynhwysfawr, ac mae'r Cyngor yn cadw disgresiwn llwyr ynghylch pob math o ddeunydd a dderbynnir neu na dderbynnir.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Y Tymor Casglu

Mae'r tymor casglu fel arfer yn ymestyn o fis Mawrth hyd fis Tachwedd.

Yn dibynnu ar sut mae'r wythnosau'n syrthio o fewn y misoedd, gallai ddechrau ychydig yn gynharach ar ddiwedd mis Chwefror, a dod i ben ychydig yn hwyrach ar ddechrau mis Rhagfyr.

Bydd tymor 2025 yn rhedeg rhwng 2 Mawrth a 4 Rhagfyr.

Casgliadau Posibl

Dyrennir 20 o gasgliadau posibl, un bob pythefnos, i bob cartref ym Mhowys yn ystod y tymor.

Mae union ddyddiadau'r casgliadau posibl ar gyfer eiddo yn dibynnu ar ba ddiwrnod yn y cylch casglu pythefnos y cafodd y casgliad ei ddyrannu.

Er enghraifft, yn nhymor 2026, os mai'r casgliad cyntaf posibl ar gyfer eiddo yw dydd Llun, 2 Mawrth, y casgliad olaf a allai fod yn bosibl fydd dydd Llun 20 Tachwedd; ond os mai'r casgliad cyntaf posib yw dydd Gwener 13 Mawrth, bydd y casgliad olaf ar ddydd Gwener, 4 Rhagfyr.

Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am yr union ddyddiadau casglu a gewch (yn amodol ar unrhyw newidiadau posibl a amlinellwyd yn y Telerau ac Amodau) pan fyddwch yn tanysgrifio - yn yr e-bost i gadarnhau ac ar y sticer ar gyfer eich bin - a gallwch wirio ein manylion diwrnodau casglu biniau unrhyw amser (yn ystod y tymor casglu).

Taliadau

Mae'r tâl am y gwasanaeth yn gost sefydlog am bob cynhwysydd, ar gyfer y casgliadau sy'n weddill yn y tymor cyfredol yn unig.

Y taliadau ar gyfer tymor 2025 oedd:

  • 240 litr bin ar olwynion - £60
  • 140 litr bin ar olwynion - £55
  • 45 litr sachau papur pydradwy (pecyn o 50) - £55

Nid yw tanysgrifiadau a wneir ran o'r ffordd trwy'r tymor yn trosglwyddo i'r tymor nesaf.  Bydd y tâl hwnnw yn rhoi hawl i chi i gael gweddill y casgliadau a drefnwyd yn y tymor cyfredol yn unig.

Gan fod uchafswm o 20 casgliad bob pythefnos yn bosibl i bob eiddo yn ystod y tymor casglu gwastraff gardd, er mwyn sicrhau eich bod yn cael manteisio ar bob un o'r 20 casgliad mewn tymor penodol, bydd angen i chi fod wedi tanysgrifio mor gynnar â phosibl pan fydd tanysgrifiadau'n agor cyn dechrau'r tymor casglu.

Telerau ac Amodau

I weld manylion llawn y gwasanaeth, darllenwch y Telerau ac Amodau llawn. 

Sylwch mai dyma'r telerau sy'n berthnasol i dymor 2025, a gellir eu diweddaru ar gyfer tymor 2026. Bydd unrhyw newidiadau sy'n digwydd ar gael ar yr un dudalen cyn gynted ag y bydd tanysgrifiadau ar gyfer tymor 2026 yn agor, felly gallwch weld y rhai diweddaraf bryd hynny.

Gwasanaeth Casglu Gwastraff o'r Ardd - Telerau ac Amodau

Symud Tŷ

Os oeddech chi wedi tanysgrifio yn 2025, ac wedi symud tŷ ym Mhowys cyn i ni ailagor tanysgrifiadau ar gyfer 2026, ac rydych yn dymuno parhau â'ch tanysgrifiad y tymor hwn yn eich tŷ newydd; yna ewch â'ch cynhwysydd/cynwysyddion gyda chi i'ch tŷ newydd, a llenwch y ffurflen Dywedwch wrthym eich bod wedi symud neu yn symud tŷ cyn i chi ail-danysgrifio i sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol ac yn barod ar gyfer pan fyddwch yn ail-danysgrifio.

Yna, os bydd angen i chi newid nifer, maint neu fath y cynhwysydd/cynwysyddion sydd gennych ar gyfer y tymor hwn, gallwch wneud hyn wrth ail-danysgrifio.

Fodd bynnag, os nad oes gennych le i gadw'r holl gynwysyddion sydd gennych ar hyn o bryd yn eich tŷ newydd, yna gadewch y rhai nad oes eu hangen arnoch yn eich hen dŷ. Yna, yn lle llenwi'r ffurflen, anfonwch e-bost at gardenwaste@powys.gov.uk. Dywedwch wrthym beth oedd eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd yn llawn, pa gynhwysydd/gynwysyddion y gwnaethoch chi eu gadael ar ôl, ac fe wnawn ni newid ein cofnodion ar eich cyfer chi.

Os na fydd angen tanysgrifiad arnoch yn eich tŷ newydd o gwbl, neu os ydych chi'n symud y tu allan i Bowys ac nad ydych chi'n gymwys i gael casgliadau mwyach, gadewch y cynhwysydd /cynwysyddion yn eich hen dŷ a chwblhewch y ffurflen  canslo tanysgrifiad cyn mis Chwefror. Os na fyddwch yn llenwi'r ffurflen, ebyddwn yn anfon e-bost atoch yn ddiangen am y tymor newydd.

 

Cysylltiadau

Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook

Rhowch sylwadau am dudalen yma

 


Rhannwch y dudalen hon