Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwirfoddoli i gynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus

Mae dros 200 o wirfoddolwyr yn gweithio gyda ni ar draws Powys. 
Finishing the bridge

Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus y sir. Mae gwirfoddolwyr yn cyflawni amrywiaeth o dasgau gan gynnwys atgyweirio a helpu ni i osod pomprennau, clirio llystyfiant, gosod gatiau, arolygon llwybrau a chyferbwyntiau. Rydym hefyd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i ofalu am ein mannau gwyrdd, er enghraifft y Warden yn Llanandras a rhai o'n llwybrau pellter hir.

Rydym yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol cymunedol i ddatblygu a chyflwyno prosiectau mynediad i gefn gwlad fel rhan o'n cynllun gwaith blynyddol; am fwy o wybodaeth gweler Cynllun Gwella

Mae ein gwirfoddolwyr cefn gwlad wedi'u cofrestru, eu hyfforddi a'u hyswirio gyda'r Cyngor. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn wirfoddolwr, cysylltwch â ni ar rights.of.way@powys.gov.uk

 

Ffurflen gais llogi tir ar gyfer digwyddiadau cymunedol Ffurflen gais llogi tir ar gyfer digwyddiadau cymunedol