Gwirfoddoli i gynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus
Mae tua 60 o wirfoddolwyr yn gweithio gyda ni led led Powys. Mae'r gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol wrth gynnal a chadw strwythurau pontydd y sir; gyda rhwng 25 - 30 o bontydd newydd yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn, a gwaith trwsio'n cael ei wneud ar lawer iawn mwy.
Ar ddechrau'r rhan fwyaf o waith, mae angen clirio llystyfiant. Gall hyn ofyn llawer mwy ohonoch na garddio cyffredinol!
Wedi clirio'r isdyfiant o safle, rydym yn cael ambell ymwelydd cyson! Mae gwirfoddolwr yn treulio ei amser paned ar ddyletswydd gwylio.
Phil yw Cydlynydd y Gwirfoddolwyr ac mae'n sicrhau fod y gwaith yn cael ei wneud i safon uchel a bod yr holl wirfoddolwyr yn cael diwrnod diogel a difyr.
Gwirfoddolwr o'r Trallwng yn rhoi marciau ar drawstiau 7 medr yn barod i'w drilio. Mae'r trawstiau ar gyfer pont droed newydd a fydd yn darparu ffordd gyswllt werthfawr at Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Mae adeiladu pont yn gofyn i bawb gymryd rhan! Bydd pawb wrthi'n brysur gyda digon o forthwylion.
Pont sydd wedi'i chwblhau ger Yr Ystog. Mae gwirfoddolwyr yn cael llawer o foddhad o adeiladu pontydd o ddim gan wybod eu bod wedi helpu i wella mynediad i gefn gwlad Powys.
Heblaw am gynnal a chadw ac adeiladu pontydd, mae gwirfoddolwyr hefyd yn clirio llystyfiant, atgyweirio camfeydd a gatiau, ac yn arolygu gwaith ar hawliau tramwy cyhoeddus.