Gwelliannau sydd wedi'u cynllunio i'ch ty cyngor
Ym mis Rhagfyr 2018, dyfarnwyd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) i Gyngor Sir Powys.
Roedd Llywodraeth Cymru'n mynnu bod tai cymdeithasol yng Nghymru'n cwrdd â'r safon hwn erbyn 2020.
Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i gadw'r safon hwn am o leiaf deng mlynedd ar hugain. Rydym yn parhau i gynllunio a threfnu gwaith adnewyddu sylweddol i geginau, ystafelloedd ymolchi, gwres canolog, toi, gwaith rendro, ffenestri/drysau, systemau gwresogi ac ail-wifro er mwyn cyrraedd a chadw'r safon hwn.
Derbyniodd Gyngor Sir Powys £3,720,000 o Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru am y flwyddyn ariannol 2023/24 a fydd yn cyfrannu at gadw'r safon.
Yn ogystal â hyn, mae Cyngor Sir Powys wedi addunedu i fuddsoddi £6,240,000 gan wario cyfanswm o £9,960,000 ar wella'n cartrefI yn 2023/24.
Rhagor o fanylion am Lwfans Atgyweirio Mawr Llywodraeth Cymru a SATC (HWQS) yma safon-ansawdd-tai-cymru | LLYW.CYMRU
Gofyn am welliannau
Cyn gwneud unrhyw waith ar eich eiddo, byddwch yn derbyn llythyr gan Gyngor Sir Powys yn rhoi gwybod i chi pa waith sydd i ddigwydd a manylion y contractwyr a fydd yn gwneud y gwaith. Yna bydd y contractwyr yn cysylltu â chi i drefnu i gynnal arolwg ac i esbonio'r gwaith.
Bydd y cylchlythyr Buddsoddi yn eich cartref (PDF) [1MB] yn cynnwys erthyglau a gwybodaeth ddefnyddiol am y gwaith gwella sydd wedi digwydd yn eich cartrefi.
Unwaith y bydd unrhyw waith wedi'i gwblhau, byddai'n ddefnyddiol iawn i ni pe gallech sbario'r amser i lenwi holiadur SATC.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau