Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhyddhad Gwelliannau

Cymhwystra i gael rhyddhad gwelliannau

Sut y pennir cymhwystra i gael y rhyddhad?

Mae hereditament (uned o eiddo ag asesiad ardrethu) ar restrau ardrethu lleol neu ganolog yng Nghymru yn gymwys i gael rhyddhad gwelliannau os bodlonir yr 'amod gwaith cymhwysol' a'r 'amod meddiannaeth'. 

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn gyfrifol am brisio eiddo at ddiben ardrethi annomestig. Felly, bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu a yw'r amod gwaith cymhwysol wedi cael ei fodloni ac effaith unrhyw welliannau i eiddo ar ei werth ardrethol. Os bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon bod y gwelliannau yn ateb y diffiniad o waith cymhwysol, bydd yn rhoi tystysgrif yn cadarnhau'r cynnydd mewn gwerth ardrethol sydd i'w briodoli i'r gwaith.

Awdurdodau bilio (awdurdodau lleol mewn perthynas â'r rhestrau ardrethu lleol a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r rhestr ardrethu ganolog) sy'n gyfrifol am filiau ardrethi annomestig a chymhwyso rhyddhadau. Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol fod yn fodlon bod yr amod meddiannaeth wedi'i fodloni cyn iddo gymhwyso'r rhyddhad yn seiliedig ar y dystysgrif a roddwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.