Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhyddhad Gwelliannau

Cyfrifo'r swm y gellir ei godi

Ni chaiff rhyddhad gwelliannau ei gyfrifo na'i gymhwyso yn yr un ffordd â rhyddhadau eraill. Mae'n gweithredu fel didyniad (y swm "G") o'r gwerth ardrethol a ddefnyddir i gyfrifo'r swm y gellir ei godi, yn hytrach na didyniad o rwymedigaeth a gyfrifwyd yn rhannol. Mae hyn yn sicrhau na fydd unrhyw ryngweithio â chymhwystra i gael rhyddhadau eraill a allai ddeillio o newid mewn gwerth ardrethol yn cosbi'r talwr ardrethi. 

Pan fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asesu gwaith gwella cymhwysol, caiff y rhestr ardrethu ei diweddaru i adlewyrchu gwerth ardrethol newydd yr hereditament a bydd y dystysgrif yn nodi swm y gwerth ardrethol hwnnw a briodolwyd ganddi i'r gwaith. Am y cyfnod o 12 mis pan fydd y dystysgrif yn effeithiol, bydd awdurdodau bilio yn cyfrifo swm yr ardrethi annomestig y gellir ei godi ar gyfer yr eiddo perthnasol fel petai'r gwerth ardrethol ar y rhestr ar gyfer y diwrnod dan sylw yn cyfateb i'r gwerth ardrethol hwnnw llai gwerth "G" (gwerth y dystysgrif). Mae hyn yn golygu bod y rhyddhad gwelliannau yn cael ei gymhwyso cyn y lluosydd ac unrhyw ryddhadau eraill wrth gyfrifo'r swm y gellir ei godi. 

Mae hwn yn ddull gweithredu mwy cynnil na mynnu bod awdurdodau bilio yn lleihau'r swm y gellir ei godi. Bwriedir iddo fod yn symlach a sicrhau y gall talwyr ardrethi fod yn hyderus na fydd gwneud gwaith cymhwysol yn cynyddu eu gwerth ardrethol effeithiol am 12 mis. 

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n darparu ar gyfer rhyddhad trosiannol ar ôl ailbrisio ardrethi annomestig yn 2023 (Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022) wedi cael ei diwygio o ganlyniad i gyflwyno rhyddhad gwelliannau, er mwyn sicrhau bod yr un egwyddor yn gymwys pan gyfrifir rhwymedigaeth yn unol â'r rheolau ynglŷn â rhyddhad trosiannol. Pan fo rhyddhad gwelliannau yn gymwys, bydd y gwerth ardrethol a ddefnyddir i gyfrifo'r hawl i gael rhyddhad trosiannol hefyd yn cyfateb i'r gwerth a ddangosir yn y rhestr ar gyfer y diwrnod dan sylw llai "G".