Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhyddhad Gwelliannau

Ardystio gwaith cymhwysol

Os caiff yr amod gwaith cymhwysol a'r amod meddiannaeth eu bodloni, bydd yr awdurdod bilio yn cyfrifo'r rhwymedigaeth gan ystyried y dystysgrif newid mewn gwerth ardrethol a roddwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae hon yn ardystio'r newid yng ngwerth ardrethol cyffredinol yr eiddo y gellir ei briodoli i'r gwaith cymhwysol (swm "G" a ddiffinnir gan reoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023). Bydd y dystysgrif yn adlewyrchu'r cynnydd net yng ngwerth ardrethol yr eiddo o ganlyniad i'r holl waith a wnaed a bydd yn gymwys am 12 mis o'r dyddiad cwblhau.

Bydd y dystysgrif yn cael effaith ddyddiol am y cyfnod o 12 mis y mae'n ymwneud ag ef a gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio ei diwygio os bydd unrhyw ran o'r eiddo y mae'r gwaith cymhwysol wedi effeithio arno yn newid yn ystod y cyfnod. Gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio dynnu tystysgrif yn ôl neu ei diwygio yn ôl ei disgresiwn, er enghraifft er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn ffeithiau neu wallau a nodwyd. Gall unrhyw newidiadau dilynol i eiddo y daw Asiantaeth y Swyddfa Brisio i'r casgliad nad ydynt yn amrywiad ar y gwaith cymhwysol gwreiddiol, ond yn hytrach eu bod yn set newydd o waith cymhwysol, arwain at roi tystysgrif newydd.