Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhyddhad Gwelliannau

Yr amod meddiannaeth

O dan yr amod meddiannaeth, yn ystod y cyfnod ers i'r gwaith cymhwysol gychwyn, rhaid bod yr eiddo wedi parhau i gael ei feddiannu ac nad yw'r talwr ardrethi wedi newid Mae hyn yn golygu bod yn rhaid bod yr un talwr ardrethi wedi parhau i feddiannu'r eiddo drwy gydol y cyfnod pan wnaed y gwaith ac yn ystod cyfnod y rhyddhad ar ôl iddo gael ei gwblhau. Mae'n cynnwys senarios lle mae landlord yn gwneud gwelliannau ac nad yw'r talwr ardrethi sy'n meddiannu'r eiddo yn newid, gan fod y talwr ardrethi yn debygol o wynebu costau rhentu uwch yn gyffredinol o ganlyniad. 

Mae'r amod hwn yn galluogi'r awdurdod bilio i "godi'r gorchudd corfforaethol" fel na fyddai, er enghraifft, newidiadau i feddiannaeth rhwng is-gwmnïau'r un grŵp ynddynt hwy eu hunain yn annilysu cymhwystra i gael rhyddhad gwelliannau. Pan fydd rhannu neu uno wedi digwydd ers i'r gwaith cymhwysol ddechrau, mae'r gofyniad am feddiannaeth barhaus gan yr un person yn gymwys i hereditamentau rhagflaenol. 

Daw cyfnod y rhyddhad i ben 12 mis ar ôl cwblhau'r gwaith cymhwysol oni fydd y talwr ardrethi cymwys yn gadael yr eiddo yn gynt. Os felly, ni fydd yr amod meddiannaeth yn cael ei fodloni mwyach. Ni ellir adfer yr hawl i gael rhyddhad mewn perthynas â'r un gwaith gwella cymhwysol os caiff yr eiddo ei ailfeddiannu wedyn, hyd yn oed gan yr un person. Bydd angen i awdurdodau bilio fod yn fodlon bod yr amod meddiannaeth wedi'i fodloni cyn dyfarnu rhyddhad.