Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhyddhad Gwelliannau

Gweinyddu rhyddhad gwelliannau

Sut y caiff y rhyddhad ei roi?

Bydd yr awdurdod bilio perthnasol yn gweinyddu'r rhyddhad, lle mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi ardystio bod yr amod gwaith cymhwysol wedi cael ei fodloni (ac nad yw'r dystysgrif wedi cael ei thynnu'n ôl neu nad yw'r dystysgrif wedi peidio â bod yn weithredol) ac mae'r awdurdod bilio yn fodlon bod yr amod meddiannaeth wedi cael ei fodloni. Caiff rhyddhad gwelliannau ei gymhwyso'n awtomatig i filiau talwyr ardrethi cymwys. Nid oes angen gwneud cais amdano. 

Bydd y rhyddhad yn gymwys am gyfnod o 12 mis o'r dyddiad y cwblhawyd y gwaith cymhwysol. O ystyried y bydd y gwaith cymhwysol yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, ni fydd angen i weithgareddau bilio arferol cyn y flwyddyn ariannol 2024-25 ystyried rhyddhad gwelliannau. Y tebyg yw y bydd sawl mis wedi mynd heibio ar ôl i'r gwaith cyntaf ddechrau cyn bod achosion cymwys yn dechrau cael eu nodi. Yna, caiff y rhyddhad ei adlewyrchu yn rhwymedigaeth talwr ardrethi cymwys am weddill y flwyddyn filio y caiff y gwaith cymhwysol ei gwblhau ynddi a rhan o'r flwyddyn ganlynol. 

Bydd gofyn i awdurdodau lleol nodi cyfanswm y rhyddhad a roddwyd yn eu ffurflenni ardrethi annomestig (NDR 1 ac NDR 3).