Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhyddhad Gwelliannau

Yr amod gwaith cymhwysol

Mae'n rhaid i'r gwaith cymhwysol arwain at newid cadarnhaol yng ngwerth ardrethol yr hereditament er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad. Ni fydd unrhyw welliannau nad ydynt yn arwain at unrhyw newid cyffredinol yng ngwerth ardrethol eiddo, neu sy'n arwain at leihau'r gwerth ardrethol o ganlyniad i weithgaredd sy'n digwydd ar yr un pryd ac sy'n lleihau'r gwerth ardrethol, megis gwaith dymchwel, yn gymwys i gael y rhyddhad.

Er mwyn ateb y diffiniad o waith cymhwysol, rhaid i'r gwelliannau wneud un neu fwy o'r canlynol:

  • cynyddu maint adeilad neu'r lle y gellir ei ddefnyddio y tu mewn i'r adeilad
  • gwella neu uwchraddio cyflwr ffisegol yr eiddo, megis ychwanegu system wresogi, system aerdymheru neu loriau uwch
  • ychwanegu peiriannau a pheirianwaith ardrethol arall

Mae enghreifftiau o welliannau sy'n arwain at gynnydd mewn gwerth ardrethol a allai fodloni'r amod gwaith cymhwysol yn cynnwys:

  • ychwanegu deunydd inswleiddio neu leinin newydd at eiddo diwydiannol nad oedd wedi'i inswleiddio'n flaenorol
  • estyniad ffisegol i eiddo
  • dymchwel wal strwythurol mewn siop, er mwyn i'r ardal a arferai fod y tu ôl i'r wal gael ei defnyddio at ddibenion manwerthu yn lle storio
  • ychwanegu ardal fanwerthu 'mesanîn' strwythurol mewn warws manwerthu

Ni fydd newid defnydd yn unig (e.e. o siop i fwyty) yn gyfystyr â gwaith cymhwysol. Fodd bynnag, gallai gwaith megis yr enghreifftiau a roddwyd uchod sy'n gysylltiedig â newid defnydd fod yn gymwys o hyd. Ni fyddai ychwanegu tir at eiddo presennol, creu hereditament newydd wrth ochr yr eiddo presennol na gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio cyffredinol yn gyfystyr â gwaith cymhwysol ychwaith. Byddai adeilad newydd o fewn hereditament sy'n bodoli eisoes, megis adeilad newydd ar safle ffatri mawr, yn cael ei drin yn yr un ffordd ag estyniad neu welliant i adeilad sy'n bodoli eisoes, a byddai'n ateb y diffiniad (ar yr amod bod gwerth ardrethol yr hereditament sy'n cynnwys yr eiddo yn cynyddu).

Petai talwr ardrethi yn ymgymryd â chynllun gwaith a fyddai'n golygu rhannu eiddo'n sawl hereditament gwahanol, gallai fod yn gymwys i gael rhyddhad o hyd os bodlonir y profion eraill. Er enghraifft, petai talwr ardrethi ar gyfer uned ddiwydiannol yn gwneud gwaith cymhwysol yn ogystal â rhannu ei eiddo yn hereditament ar wahân i'w ddefnyddio gan feddiannydd gwahanol, gallai'r gwaith fod yn gymwys o hyd, ond dim ond mewn perthynas â'r hereditament y bydd yr un talwr ardrethi yn parhau i'w feddiannu. Mae hyn yn gysylltiedig â'r amod meddiannaeth, a ddisgrifir yn fanylach isod.

Bwriad y rhyddhad yw helpu meddianwyr i wella eu safleoedd busnes presennol. Ni fwriedir iddo roi cymhorthdal ar gyfer gwaith datblygu eiddo masnachol cyffredinol, megis gwaith adeiladu newydd neu waith adnewyddu. Gan fod gwaith datblygu mawr o'r fath yn arwain, fel arfer, at dynnu eiddo oddi ar y rhestr ardrethu, ni fydd y diffiniad o waith cymhwysol yn cynnwys amgylchiadau lle nad oedd yr eiddo wedi'i gynnwys ar restr ardrethu am ran o'r cyfnod pan wnaed y gwaith neu am y cyfnod cyfan.

Mae enghreifftiau o welliannau na fyddent, o bosibl, yn bodloni'r amod gwaith cymhwysol yn cynnwys:

  • codi adeilad newydd sy'n arwain at asesiad ardrethu newydd (h.y. hereditament newydd)
  • eiddo yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ardrethu tra bydd gwaith ailddatblygu sylweddol yn cael ei wneud ac yn cael ei gofnodi ar y rhestr unwaith eto pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau
  • gosod technoleg newydd yn lle hen dechnoleg, megis uwchraddio i ddeunydd inswleiddio mwy modern, heb unrhyw newid i'r gwerth ardrethol yn sgil hynny

Mae'n rhaid i'r gwaith cymhwysol gychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024. Nid yw gwaith a gychwynnodd cyn y dyddiad hwn ac a gwblhawyd ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu a yw'r amod gwaith cymhwysol wedi'i fodloni. Os bydd yn fodlon bod yr amod wedi cael ei fodloni, bydd yn rhoi tystysgrif yn cadarnhau'r newid yn y gwerth ardrethol sydd i'w briodoli i'r gwaith cymhwysol.