Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud ar Newid Hinsawdd?

Roedd Cyngor Sir Powys wedi datgan argyfwng hinsawdd ar 24 Medi 2020. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i ostwng ei allyriadau carbon i sero-net, yn unol â tharged sector cyhoeddus Cymru sef 2030.

  • Fel partner ar Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Powys, mae'r Cyngor yn cyfrannu tuag at lunio Strategaeth Garbon Bositif i'r sir gyfan.
  • Ariannu gwaith yn y gymuned ar newid hinsawdd a chefnogi'r economi lleol trwy Raglen Arwain Leader.
  • Cydlynu llunio Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru ar ran Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.
  • Gwella gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu.
  • Gosod pwyntiau Gwefru EV yn ein cymunedau.
  • Gosod paneli solar yn ein hysgolion ac adeiladau.
  • Adeiladu cartrefi ac ysgolion ynni effeithiol. Darparu seilwaith newydd i annog seiclo a cherdded, a'r defnydd o gludiant cyhoeddus.   

Gweld Strategaeth a Gweledigaeth Hinsawdd y Barcud Coch
Powys iach, gynaliadwy a phositif-net 2021 - 2030 

Strategaeth ar gyfer Newid Hinsawdd (PDF) [4MB]

Trosolwg Newid Hinsawdd Cyngor Sir Powys ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned (PDF) [2MB]