Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Cradoc G.G.

Yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Powys i uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol G.G. Cradoc, mae'r Cyngor nawr yn symud ymlaen gyda'r cynlluniau i sefydlu ysgol gynradd newydd o fis Medi 2024.

Newyddion Diweddaraf:

Ysgol Golwg Pen y Fan fydd enw'r ysgol newydd fydd yn agor yn Aberhonddu ym mis Medi 2024. Bydd yr ysgol newydd yn cael ei sefydlu yn dilyn uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street, ac Ysgol G.G. Cradoc fel rhan o'r cynlluniau Trawsnewid Addysg gan Gyngor Sir Powys ar gyfer dalgylch Aberhonddu.

Bydd yr ysgol newydd yn gweithredu ar y tri safle presennol i ddechrau, cyn symud yn y pen draw i adeilad newydd sbon yn Aberhonddu, a fydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer disgyblion yr 21ain ganrif.

Mae Mrs Sarah Court wedi cael ei phenodi'n Bennaeth Dynodedig ac mae eisoes wedi dechrau yn ei swydd yn cynorthwyo gyda'r cyfnod pontio cyn dechrau fel Pennaeth ym mis Medi.

Corff Llywodraethu Dros Dro wedi'i sefydlu:

Mae Corff Llywodraethu Dros Dro, sy'n cynnwys llywodraethwyr presennol, wedi'i sefydlu i oruchwylio'r newid i'r ysgol newydd.

Rydym hefyd yn cyhoeddi cylchlythyrau rheolaidd i roi gwybod i randdeiliaid am y cynnydd:

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma