Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut i gael gwared ar wastraff clinigol

Bydd gwastraff clinigol heintus yn cael ei gasglu gan Fwrdd Iechyd addysgu Powys.  Cysylltwch â'ch tîm nyrsio cymunedol o fewn eich Meddygfa i sefydlu casgliad newydd.

Beth yw gwastraff clinigol heintus?
Image of some sharps boxes

Gofynnwch i'ch meddyg neu nyrs os byddwch yn cynhyrchu unrhyw wastraff clinigol heintus. Ni ddylid taflu hwn ymaith gyda'ch gwastraff arferol o'r cartref.

Mae gwastraff clinigol heintus yn cynnwys;

  • nodwyddau sydd wedi'u defnyddio
  • chwistrellau
  • llafnau
  • swabiau
  • dresins meddygol sydd wedi'u defnyddio
  • eitemau eraill sy'n cynnwys secretiadau ac ysgarthiadau gan unigolion sy'n dioddef o afiechydon heintus.  

Ni ddylid byth gymysgu gwastraff heintus gyda gwastraff cyffredin.

Gwastraff Meddygol Nad yw'n Heintus

Dylai padiau anymataliaeth, eitemau ar gyfer y mislif, bagiau stoma neu wastraff catheter gael eu rhoi mewn bag dwbl a'u gosod allan i'w casglu gyda sbwriel gweddilliol y cartref (bin olwynion du, neu sachau porffor).

Mae'n bosibl bod hawl gennych am gapasiti gweddilliol ychwanegol os ydych yn cynhyrchu llawer iawn o wastraff meddygol nad yw'n heintus. Gallwch wneud cais ar-lein a fydd yn cael ei asesu. Os fydd yn cael ei gymeradwyo, byddwch yn derbyn bin mwy o faint neu sachau porffor ychwanegol.