Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dwi mewn Gofal Maeth

Os wyt ti'n derbyn gofal yn barod gennym ni, neu os fyddi di'n symud i ofal maeth cyn bo hir, mae'r dudalen hon i ti.  Rydym yn deall efallai dy fod yn bryderus ac ychydig yn ofnus ond gobeithio y bydd y dudalen hon yn gallu ateb rhai o dy gwestiynau neu'n gallu dy droi i'r cyfeiriad cywir am help a chyngor.  Gofynnwyd y cwestiynau hyn gan blant a phobl ifanc sydd mewn gofal maeth.

A fydd gen i Weithiwr Cymdeithasol?

Bydd Gweithiwr Cymdeithasol gyda phob plentyn sy'n derbyn gofal a'i swydd ef/hi yw gwneud yn siwr bod pethau yn eu lle ar gyfer dy holl anghenion. Darllen mwy....

Alla' i weld fy nheulu a fy ffrindiau?

Galli di siarad gyda dy weithiwr cymdeithasol am y ffordd orau i gadw mewn cysylltiad gyda dy deulu a'th ffrindiau. Darllen mwy....

A fydd rhaid i mi newid ysgol?

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i ofalwr maeth sy'n byw'n eithaf agos fel nad oes rhaid i ti newid ysgol. Darllen mwy....

Ymhle fydda' i'n byw?

Byddwn yn ceisio dod o hyd i gartref i ti gyda gofalwyr maeth lleol fel dy fod yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda dy deulu a dy ffrindiau ac i bara i wneud unrhyw weithgareddau neu hobïau rwyt ti'n eu mwynhau. Darllen Mwy....