Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Budd-dal Tai

A ddylech wneud cais am Fudd-dal Tai neu'r Credyd Cynhwysol?

Bydd Budd-dal Tai'n gallu eich helpu chi dalu'r rhent os ydych chi'n ddi-waith, ar incwm isel neu'n hawlio budd-daliadau.  O 10/10/2018, rhaid i unrhyw un o oedran gweithio sydd ddim yn derbyn Budd-dal Tai ar hyn o bryd ym Mhowys, hawlio Credyd Cynhwysol.

 

Dim ond os yw un o'r canlynol yn wir y gallwch hawlio Budd-dal Tai:

  • rydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ac nid oes gennych bartner o oedran gweithio
  • rydych chi'n byw mewn llety dros dro
  • rydych yn byw mewn tŷ lloches neu lety â chymorth gyda chyfleusterau arbennig megis larymau neu wardeniaid.

Os na, bydd rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol.

 

Sut i wneud cais

Y ffordd gyflymach i hawlio yw llenwi'r ffurflen gais ar-lein, ond os ydych chi angen help llaw, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Pethau i'w cofio

  • Anfonwch y ffurflen ar unwaith gan y bydd hyn yn effeithio ar bryd y gallwn ddechrau talu'ch budd-dal.
  • Os ydych am wneud cais am Fudd-dal Tai, gallwch ddefnyddio'r un ffurflen i hawlio cymorth tuag at Dreth y Cyngor (Gostyngiad), Prydau Ysgol am Ddim a Grantiau Dillad Ysgol ar yr un ffurflen.
  • Gewch chi ddim budd-dal os na fyddwch yn hawlio.

 

Llenwi'r ffurflen hawlio budd-dal tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor ar-lein Ffurflen hawlio budd-dal tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor

Canfod eich cyfradd lwfans Tai Lleol Canfod eich cyfradd lwfans Tai Lleol

Credyd Cynhwysol - Ydy e'n effeithio arnoch CHI? Sut mae budd-daliadau'n newid

 

Cysylltiadau ar gyfer:

  • Ffôn: 01597 827462 (pob ardal)
  • E-bost Gogledd Powys: montawards@powys.gov.uk / Cyfeiriad: Ty Maldwyn, Stryd Y Nant, Y Trallwng, Powys, SY21 7PH
  • E-bost De Powys a Canol Powys: breconawards@powys.gov.uk / Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR

Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael yn ein swyddfeydd yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais.  I drefnu apwyntiad, galwch ni.

Rhowch sylwadau am dudalen yma