Eiddo gwag
Eiddo gwag sy'n perthyn i elusen
Os yw elusen yn berchen ar eiddo, a'r eiddo hwnnw wedi'i ddefnyddio at ddibenion yr elusen cyn dod yn wag, mae'n bosibl y bydd wedi'i eithrio rhag talu Treth y Cyngor. Bydd eithriad yn gymwys am hyd at 6 mis o'r dyddiad y daeth yn wag. Mae'r eithriad yma'n berthnasol boed yr eiddo wedi'i ddodrefnu neu beidio.