Eiddo nad yw'n addas byw ynddo
Eiddo sy'n anaddas i fyw ynddynt (Adnewyddu tŷ/fflat neu drosi ysgubor / fferm)
Bydd yr eithriad yn berthnasol i eiddo anghyfannedd am uchafswm o 12 mis. Mae'n rhaid i'r eiddo fod angen gwaith atgyweirio mawr arno er mwyn iddo ddod yn gyfannedd, neu raid i waith trosi strwythurol fod ar y gweill. Mae'n bosibl y bydd Swyddog Ymweld yn archwilio'r eiddo cyn dyfarnu eithriad.
Ar ôl yr eithriad, mae'n bosibl y bydd angen talu premiwm treth y cyngor.
Eiddo heb ddodrefns
Os nad oes dodrefn yn yr eiddo, yna mae'n bosibl y bydd yn cael ei eithrio o Dreth y Cyngor am hyd at 6 mis.
Ar ôl i'r eithriad yma ddod i ben, bydd yr eiddo'n atebol am ffi llawn Treth y Cyngor. Os yw'r eiddo'n parhau i fod â neb yn byw ynddo, a heb ei ddodrefnu am gyfnod parhaus o un flwyddyn, mae'n bosibl y bydd angen talu premiwm treth y cyngor. may apply.
Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma Hawlio Eithriad
Eiddo wedi'i ddifrodi llifogydd neu sy'n anniogel
Os yw eich eiddo wedi'i ddifrodi neu'n anniogel, efallai y cewch chi ostyngiad yn Nhreth y Cyngor. Byddai hynny'n digwydd trwy gynllun arbennig 'Adran 13a' y mae Cyngor Sir Powys wedi'i sefydlu lle bydd yn ystyried y sefyllfaoedd a ganlyn:
- Eiddo sy'n dioddef difrod tân
- Eiddo dan ddŵr gan gynnwys difrod storm
- Eiddo sy'n anniogel yn sgîl nwy neu olew yn gollwng neu ymsuddiant.
Rhagor o wybodaeth am y cynllun yma a sut i wneud cais Treth y Cyngor: Fframwaith Disgownt Lleol (Adran 13A)