Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treth y Cyngor: Fframwaith Disgownt Lleol (Adran 13A)

Mae'r fframwaith hon yn dynodi'r ddeddfwriaeth, dosbarthiadau grŵp, meini prawf unigol a'r gweithdrefnau i'w hystyried wrth ystyried ceisiadau am ddisgownt lleol i Dreth y Cyngor o dan Adran 13a. 

Cefndir

O dan adran 13A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i mewnosodwyd gan adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003), mae gan y Cyngor y grym i leihau swm treth y cyngor i'w dalu mewn achosion unigol neu ddosbarth(iadau) o eiddo y gall eu pennu, a lle na ellir defnyddio disgowntiau neu eithriad cenedlaethol. 

Dosbarth o eiddo yw lle byddai nifer o bobl sy'n talu treth y cyngor yn perthyn i grŵp oherwydd bod eu hamgylchiadau yn debyg-er enghraifft; rhai sy'n talu treth y cyngor sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd llifogydd.

Mae'r ddeddf yn nodi:

  • Pan fo person yn atebol i dalu treth y cyngor mewn perthynas ag unrhyw annedd a diwrnod trethadwy, gall yr awdurdod bilio ar gyfer yr ardal leihau'r swm y mae gofyn ei dalu mewn perthynas â'r annedd a'r diwrnod i'r graddau y mae'n credu sy'n addas.
  • Mae'r grym o dan is-adran 1) uchod yn cynnwys y grym i leihau'r swm i ddim.
  • Gellir defnyddio'r grym o dan is-adran 1) mewn perthynas ag achosion penodol neu drwy benderfynu ar ddosbarth o achosion i leihau'r swm i raddau a ganiateir gan y penderfyniad.

 

Sut caiff y disgownt ei ariannu

Mae goblygiadau ariannol wrth ddyfarnu unrhyw ddisgownt y tu hwnt i'r rhai sydd ar gael o dan y ddeddfwriaeth statudol ac mae'n rhaid i'r Cyngor gymryd yr holl faich ariannol sy'n ymwneud â disgowntiau adran 13A. Felly caiff ei ariannu drwy gynnydd yn y lefel Treth y Cyngor cyffredinol i dalwyr eraill.  

Felly mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion Trethdalwyr unigol lle mae angen cymorth ariannol a buddiannau Trethdalwyr y Cyngor ym Mhowys.

Dosbarthiadau o eiddo ar gyfer Disgownt Adran 13A

Dosbarthiadau'r Cyngor o eiddo lle y gellir rhoi adran 13A. Dim ond lle mae gostyngiadau, disgowntiau neu eithriadau eraill sydd ar gael ar gyfer treth y cyngor wedi'u harchwilio a'u diystyru y byddai hyn yn cael ei ddefnyddio. Y dosbarthiadau eiddo presennol allai gael disgownt adran 13A a swm arfaethedig y disgownt yw:

  • Dosbarth Eiddo: Difrod Tân
  • Meini Prawf: Dim modd byw yn yr eiddo, neu ddim ond mewn rhan ohono, oherwydd difrod sylweddol
  • % y disgownt: Hyd at 100%  
  • Uchafswm Cyfnod: 12 Mis

 

  • Dosbarth Eiddo: Llif mewn Eiddo
  • Meini Prawf: Dim modd byw yn yr eiddo, neu ddim ond mewn rhan ohono, oherwydd difrod sylweddol
  • % y disgownt: Hyd at 100%  
  • Uchafswm Cyfnod: 12 Mis

 

  • Dosbarth Eiddo: Eiddo sydd ddim yn ddiogel, e.e. nwy neu olew yn gollwng, difrod storm, ymsuddiant.
  • Meini Prawf: Dim modd byw yn yr eiddo, neu ddim ond mewn rhan ohono, oherwydd difrod sylweddol neu risg i iechyd a lles y deilydd.  Nwy neu olew yn gollwng, difrod storm, ymsuddiant. 
  • % y disgownt: Hyd at 100%  
  • Uchafswm Cyfnod: 12 Mis

 

Lle bydd modd symud yn ôl i'r eiddo yn llawn neu'n rhannol yn ystod y cyfnod, rhaid i'r trethdalwr roi gwybod i'r Cyngor am newid amgylchiadau, yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod, a bydd y disgownt yn cael ei ostwng neu'n dod i ben fel sy'n briodol.  


Sylwer: Lle bydd yr amodau ar gyfer caniatáu disgownt o dan Adran 13a yn parhau ar ôl i'r cyfnod ddod i ben, byddem yn annog i'r trethdalwr wneud cais arall o dan adran 13a.  

 

Ceisiadau unigol am Ddisgownt Adran 13A

Bydd y cyngor yn trin pob cais ar sail ei rinweddau unigol. Rhaid cael tystiolaeth o galedi ariannol neu amgylchiadau personol eithriadol na ellid eu rhagweld sy'n effeithio ar allu trethdalwyr i dalu treth y cyngor neu i barhau yn eu cartrefi er mwyn cyfiawnhau unrhyw ostyngiad dewisol sy'n cael ei wobrwyo.

Wrth wneud cais am y gostyngiad, bydd angen i Drethdalwr y Cyngor, eu heiriolydd/y sawl a benodir ganddynt neu drydydd parti a awdurdodir fel sy'n briodol i weithredu ar ei ran/rhan gyflwyno'r cais, a rhaid i'r cais.

MEINI PRAWF CYMHWYSEDD

Opsiwn olaf un yw'r gostyngiad dewisol lle mae caledi ariannol neu amgylchiadau personol eithriadol, sy'n effeithio ar allu'r trethdalwr i dalu Treth y Cyngor. Nid yw'n fwriad i ddisodli unrhyw ostyngiadau, eithriadau, neu Ostyngiadau Treth y Cyngor.

Bydd y Cyngor yn delio gyda phob cais ar sail rhinweddau unigol; fodd bynnag, ym mhob achos, dylid bodloni'r meini prawf canlynol:

  • mae'r trethdalwr wedi gwneud cais trwy'r Cynllun Gostyntiadau Treth y cyngor - sef cynllun sy'n sicrhau fod y sawl ar incwm isel yn derbyn cymorth ariannol tuag at eu Treth Gyngor
  • Ddangos fod cais am ostyngiad Adran 13a yØ  yn un pan fetho popeth arall a bod unrhyw hawl i ostyngiad treth y cyngor, neu eithriad neu weithredu neu apelio gan y Swyddfa Brisio / Tribiwnlys Prisio wedi cael eu harchwilio cyn gwneud y cais.
  • Manylu ar y caledi ariannol neu'r amgylchiadau personol eithriadol nas rhagwelwyd sy'n effeithio ar allu'r trethdalwr i dalu Treth y Cyngor y mae'r cais yn seiliedig arnynt a chyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth ategol briodol.
  • Bodloni'r Cyngor fod yr holl gamau rhesymol wedi cael eu cymryd ganddo ef/hi i ddatrys sefyllfa ei hunan cyn y cais.
  • dangos fod treth y cyngor sy'n ddyledus neu'r rhwymedigaeth net sy'n ddyledus ddim o ganlyniad i beidio â thalu'n fwriadol neu fethiant i wneud taliadau sy'n ofynnol oherwydd gwrthod yn fwriadol neu esgeulustod beius.

I ddeall amgylchiadau ariannol trethdalwyr yn llwyr, bydd gofyn i'r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu cais. Gall hyn gynnwys:

  • Datganiad Incwm a Gwariant
  • Tystiolaeth ddogfennol i ddilysu gwybodaeth a gyflwynir mewn datganiadau Incwm a Gwariant
  • Tystiolaeth fod yr holl gymhwyster am fudd-daliadau eraill wedi cael ei archwilio'n drylwyr a'i gynyddu
  • Tystiolaeth i gefnogi'r amgylchiadau eithriadol nas rhagwelir a wynebir gan y trethdalwr
  • Unrhyw ddogfennau perthnasol eraill

Os nad yw ymgeisydd wedi ceisio cyngor ariannol gan sefydliad, bydd disgwyl iddo/iddi ymgysylltu â Thîm Cyngor Ariannol y Cyngor mewn perthynas â'r caledi ariannol dan sylw.

 

Ni ddyfernir gostyngiad dewisol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Os bydd y rhwymedigaeth o ran Treth y Cyngor yn cael ei fodloni'n llawn gan gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor neu eithriad.
  • Lle bydd y Cyngor yn ystyried nad yw'r ymgeisydd wedi cymryd camau rhesymol i leihau treuliau a dyledion dianghenraid
  • Lle mae gan Drethdalwr y Cyngor asedau y gellir eu defnyddio'n rhesymol i dalu Treth y Cyngor.
  • Er mwyn talu unrhyw gynnydd yn Nhreth y Cyngor sy'n daladwy oherwydd methiant yr ymgeisydd i hysbysu'r Cyngor am newidiadau i'w amgylchiadau mewn ffordd amserol, neu lle mae'r ymgeisydd wedi methu ymddwyn mewn ffordd gywir neu onest
  • Er mwyn talu costau Llys neu gosb Treth y Cyngor a ddyfarnwyd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol

Sut i wneud cais am ddisgownt Adran 13a

Gellir cyflwyno ceisiadau: 

Rhaid i'r cais nodi'n glir:    

  • Ei fod yn gais am ddisgownt adran 13a
  • Os yw'r disgownt yn cael ei geisio o dan ddosbarth o eiddo neu oherwydd amgylchiadau unigol
  • Cynnwys gwybodaeth/tystiolaeth ategol briodol

 

Cydnabod y Cais

Bydd y gydnabyddiaeth yn hysbysu'r trethdalwyr am yr amser tebygol i wneud unrhyw benderfyniad, ac am y posibilrwydd y gallai fod angen i'r Cyngor ofyn cwestiynau neu wneud ymholiadau pellach.  

 

Penderfynu ar y cais

Bydd yr aelod portffolio cyllid yn ystyried pob cais am ddisgownt adran 13A yn unigol, a disgwylir iddo fodloni'r meini prawf isod:  

  • amgylchiadau personol y trethdalwr
  • tystiolaeth gan y trethdalwr o galedi ariannol
  • incwm y trethdalwr a mynediad at asedau neu gynilion y gellid eu sylweddoli i dalu Treth y Cyngor
  • unrhyw ostyngiadau neu eithriadau cymwys eraill y gellid eu gwobrwyo
  • y cyfrif Treth y Cyngor ac os oes ôl-ddyledion, rhaid i'r Cyngor fodloni nad yw'r diffyg taliadau o ganlyniad i wrthod bwriadol neu esgeulustod camweddus

 

Hysbysu am Benderfyniadau

Bydd y Cyngor yn hysbysu pob ymgeisydd am ddisgownt adran 13A o'i benderfyniad yn ysgrifenedig.  
 Lle rhoddir disgownt, bydd y llythyr yn amlinellu: 

  • Maint y disgownt a ganiatawyd a'r dyddiad y'i rhoddwyd.
  • Os rhoddwyd disgownt am gyfnod penodedig, y dyddiad y bydd yn dod i ben.
  • Y swm newydd.
  • Manylion unrhyw ddyddiadau adolygu sydd wedi'u cynllunio a'r rhybudd fydd yn cael ei roi cyn newid lefel y disgownt a roddir.
  • Gofyniad y dylai'r ymgeisydd hysbysu'r Cyngor am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar yr hawl i gael y disgownt. 

 
Lle na roddir disgownt adran 13A, cynigir: 

  • Esboniad o'r penderfyniad i beidio â rhoi disgownt
  • Hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, gan nodi'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r apêl

 

Diogelu arian cyhoeddus

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn twyll ar bob ffurf. Gallai unrhyw ymgeisydd sy'n ceisio hawlio disgownt adran 13A yn dwyllodrus fod wedi cyflawni trosedd o dan Ddeddf Twyll 2006. 

Os bydd y Cyngor yn amau y gallai twyll fod wedi digwydd, bydd yn ymchwilio i'r mater a gallai hynny arwain at achos troseddol.

 

Hawl i apelio

Mae'r hawl i apelio yn dod o dan adran 16 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.  Rhaid i apêl yn erbyn penderfyniad gan y Cyngor i wrthod neu gyfyngu ar ddyfarnu disgownt adran 13A gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod i ddyddiad hysbysu'r penderfyniad. Rhaid i'r apêl nodi sail yr apêl yn glir, a darparu'r holl ddogfennau ategol perthnasol. Lle cafodd y penderfyniad gwreiddiol ei wneud heb wybod yr holl ffeithiau, bydd yn cael ei adolygu gan yr Aelod Portffolio Cyllid, fel arall, bydd yr apêl yn cael ei ystyried gan aelodau'r Cabinet.  

Os bydd y trethdalwr yn parhau'n anfodlon, gall gyflwyno apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru. Os na fydd y trethdalwr yn derbyn hysbysiad gan yr awdurdod bilio o fewn 4 mis, gall gyflwyno apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru. 

 

Statws: Terfynol V6
Dyddiad cyflwyno: Hydref 2022
Cytunwyd gan: Aelod Portffolio - Cyllid
Dyddiad Adolygu: Ebrill 2025