Eiddo sy'n wag am amser hir
Beth yw eiddo sy'n wag am amser hir?
Eiddo heb feddiannaeth sy'n sylweddol wag o ddodrefn am gyfnod parhaus o flwyddyn yw eiddo sy'n wag am amser hir.
Mae nifer o eithriadau sy'n golygu nad oes yn rhaid talu Treth y Cyngor ar eiddo gwag. Mae'r tabl isod yn dangos manylion yr eithriadau sydd ar gael.
Enghraifft o adeg y byddai Premiwn treth y Cyngor yn berthnasol:
- Eiddo'n wag a heb ei ddodrefnu ar 1 Mehefin 2016 / Tâl Treth y Cyngor: 0% / Cyfnod: 01/06/2020-30/11/2020 (Dosbarth C)
- Eiddo'n parhau'n wag a heb ei ddodrefnu / Tâl Treth y Cyngor: 100% / Cyfnod: 01/12/2020-31/05/2021
- Eiddo â neb yn byw ynddo a heb ei ddodrefnu am flwyddyn / Tâl Treth y Cyngor: 150% / Cyfnod: 01/06/2021
Yn ogystal â hyn, bydd nifer o gategorïau ag eithriad ar eu cyfer yn berthnasol yn benodol i eiddo sy'n wag am gyfnod hir. Os yw eiddo sy'n wag am gyfnod hir yn un o'r categorïau hyn, ni fydd y Cyngor yn gallu codi premiwm Treth y Cyngor.
Categorïau Eithrio Talu Premiwm | Diffiniad |
---|---|
Dosbarth 1 | Anheddau sydd ar y farchnad i'w gwerthu (cyfyngiad o flwyddyn) |
Dosbarth 2 | Anheddau sydd ar y farchnad i'w gosod (cyfyngiad o flwyddyn) |
Dosbarth 3 | Anecs sy'n rhan o brif annedd, neu'n cael ei drin fel rhan o brif annedd |
Dosbarth 4 | Anheddau a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref i rywun pe na byddent yn preswylio mewn llety i aelodau o'r lluoedd arfog |