Eiddo â phobl yn ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd
Beth yw eiddo mewn meddiant o bryd i'w gilydd?
Yn ôl diffiniad Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, "annedd nad yw'n brif gartref na'n unig gartref i rywun ac sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol" yw eiddo mewn meddiant o bryd i'w gilydd (ail gartref/cartref gwyliau).
Mae nifer o eithriadau sy'n golygu nad oes yn rhaid talu Treth y Cyngor ar eiddo â phobl yn byw ynddo - mae'r tabl isod yn dangos manylion yr eithriadau sydd ar gael.
- Prynwyd yr eiddo ar 1 Mai 2014 ac mae'n ail gartref wedi'i ddodrefnu / Tâl Treth y Cyngor: 100% / Cyfnod: 01/04/2014-31/03/2017
- Mae'r eiddo'n parhau i gael ei ddefnyddio fel ail gartref / Tâl Treth y Cyngor: 150% / Cyfnod: 01/04/2017-31/08/2017
- Rhoddwyd yr eiddo ar y farchnad i'w werthu ar 1 Medi 2017 / Tâl Treth y Cyngor: 100% / Cyfnod: 01/09/2017- 31/08/2018 (Mae Eithriad Dosbarth 1 i'r premiwm am un flwyddyn)
- Eiddo'n parhau ar y farchnad / Tâl Treth y Cyngor: 150% / Cyfnod: 01/09/2018. O Ebrill 2023 ymlaen, bydd y tâl hwn yn 175%
Yn ogystal â hyn mae nifer o gategorïau eithrio a fwriadwyd yn benodol ar gyfer eiddo sydd mewn meddiannaeth o bryd i'w gilydd. Os yw eiddo mewn meddiannaeth o bryd i'w gilydd yn un o'r categorïau hyn, ni fydd y Cyngor yn gallu codi premiwm Treth y Cyngor.
Categorïau Eithrio Talu Premiwm | Diffiniad |
---|---|
Dosbarth 1 | Anheddau sydd ar y farchnad i'w gwerthu (cyfyngiad o flwyddyn) |
Dosbarth 2 | Anheddau sydd ar y farchnad i'w gosod (cyfyngiad o flwyddyn) |
Dosbarth 3 | Anecs sy'n rhan o brif annedd, neu'n cael ei drin fel rhan o brif annedd |
Dosbarth 4 | Anheddau a fyddai'n brif breswylfeydd neu'n unig breswylfeydd i bobl pe na byddent ar y pryd yn byw mewn llety i'r lluoedd arfog |
Dosbarth 5 | Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod â phobl yn byw ynddynt |
Dosbarth 6 | Tai tymhorol y mae gwaharddiad i bobl fyw ynddynt gydol y flwyddyn |
Dosbarth 7 | Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi |