Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Perchennog ci yn cael dirwy o £75 am fethu â chlirio ar ôl ei gi

Image of a dog

22 Mehefin 2022

Image of a dog
Cafodd perchennog ci o'r Drenewydd ddirwy o £75 am fethu â glanhau ar ôl i'w gi faeddu ar fan gwyrdd yn y dref, yn ôl Cyngor Sir Powys.

Llwyddodd Tîm Diogelu'r Amgylchedd y cyngor i gymryd y camau gorfodi ar ôl i aelod o'r cyhoedd weld y digwyddiad yn digwydd ar y man gwyrdd yn Stryd yr Undeb ar 21 Ebrill a rhoi gwybod am y digwyddiad.

Diolch i'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr aelod o'r cyhoedd, rhoddodd y cyngor yr hysbysiad cosb benodedig i berchennog y ci.

Mae'r cyngor nawr yn atgoffa perchnogion cŵn y sir bod yn rhaid iddynt lanhau ar ôl i'w cŵn faeddu, a chael gwared ar y gwastraff yn briodol.

Mae'n drosedd caniatáu i gi sydd o dan eich rheolaeth, hyd yn oed os mai cerdded ci rhywun arall ydych chi, faeddu mewn man cyhoeddus a methu â'i lanhau yn syth ar ôl iddo faeddu.  Mae mannau cyhoeddus yn cynnwys llwybrau troed, caeau chwarae, meysydd parcio, a mynwentydd.  Os na fyddwch yn glanhau, gallech gael hysbysiad cosb benodedig o £75 neu wynebu erlyniad.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar faterion Powys Ddiogelach: "Mae'n drosedd caniatáu i gi sydd o dan eich rheolaeth, hyd yn oed os mai cerdded ci rhywun arall ydych chi, faeddu mewn man cyhoeddus a methu â'i lanhau yn syth ar ôl hynny.

"Os ydych chi allan yn cerdded eich ci, dylech bob amser gario bag plastig i godi'r llanast cyn gynted ag y bydd eich ci wedi baeddu, a'i roi yn y bin gwastraff cŵn neu'r bin sbwriel agosaf neu ei waredu gartref."

Mae trigolion y sir hefyd yn cael eu hannog i roi gwybod i'r cyngor am unrhyw achosion o faw cŵn neu broblemau penodol yn eu hardal.

Mae'r cyngor am i bobl leol e-bostio neu ffonio i'w hysbysu o unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â baw cŵn er mwyn gallu darparu amgylchedd iach a diogel i breswylwyr, plant a phobl sy'n mynd ar wyliau.

Drwy roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, gall y cyngor wedyn drefnu i'r baw gael ei lanhau, ymchwilio i'r digwyddiad neu gymryd camau gorfodi yn erbyn perchennog y ci.  Gellir gwneud ceisiadau am arwyddion 'Dim Baeddu' a bin sbwriel/bin gwastraff cŵn cyfunol i'r cyngor hefyd.

"Rydym yn byw mewn sir brydferth ac rydym am ei chadw felly ond mae baw cŵn yn effeithio ar ddiwyg ein cymunedau," ychwanegodd y Cynghorydd Church.

"Mae'r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond mae lleiafrif sy'n gadael eu cymunedau i lawr drwy ganiatáu i'w cŵn faeddu mannau cyhoeddus.  Drwy ofyn i drigolion roi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â baw cŵn, gallant ein helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn yn eu cymuned.

Os hoffech roi gwybod am ddigwyddiad baw cŵn, rhowch wybod amdano ar-lein yn Rhoi gwybod i ni am gwn yn baeddu

Os ydych am roi gwybod i'r cyngor am broblem benodol yn eich ardal yna e-bostiwch tls.helpdesk@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827465 neu 0845 602 7035.