Partneriaeth Flaengar Powys
Y cychwyn gorau mewn bywyd
Rydym yn wynebu treigl demograffeg o bobl ifanc yn symud i ffwrdd o Bowys, ac yn enwedig o'r cymunedau mwyaf gwledig. Mae angen inni sicrhau, trwy'r holl wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Powys, a thrwy ein partneriaethau gydag eraill, y gallwn sicrhau addysg, hyfforddiant, swyddi a chartrefi fforddiadwy angenrheidiol er mwyn i'n bobl ifanc aros yn ein cymunedau gwledig.
Byddwn yn adolygu'r rhaglen ad-drefnu ysgolion, ac yn sefydlu model newydd o ran trefniadaeth ysgolion cynradd ac uwchradd, sy'n darparu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer ein hysgolion a'n cymunedau.
Mae staff a disgyblion ysgolion yn bwysicach nag adeiladau ysgolion. Byddwn yn cynnal dadansoddiad costau/buddion er mwyn sicrhau y gellir cyfiawnhau'n llwyr y costau sylweddol sydd ynghlwm wrth bob adeilad newydd, ar adeg pan mae costau adeiladu a chyfraddau llog yn cynyddu, a byddwn yn cychwyn archwiliad llawn er mwyn deall sut yr oedd costau adeiladu prosiectau a orffennwyd yn ddiweddar wedi cynyddu cymaint.
Mae gormod o bobl ifanc yn gadael y sir i dderbyn addysg ôl-16. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda'r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch a darparwyr dysgu yn y gweithle i fanteisio i'r eithaf ar ddefnyddio technoleg newydd i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg ôl-16 a hyfforddiant ar gael heb fod angen i bobl ifanc deithio tu allan i'r sir.
Gall y Gwasanaethau Ieuenctid wneud llawer iawn i gefnogi pobl ifanc mewn ardaloedd lle mae diffyg cyfleusterau i bobl ifanc. Mae angen i bobl ifanc allu mynd i leoliadau er mwyn gallu cwrdd yn ddiogel ac mewn awyrgylch cyfforddus. Byddwn yn ail-fuddsoddi yng ngwasanaeth ieuenctid y sir ac yn cefnogi eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc.
Byddwn yn parhau i annog defnydd o'r Gymraeg ym Mhowys, trwy gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn ysgolion, i annog cyfleoedd pellach i ddefnyddio a dysgu'r iaith mewn unrhyw agwedd ar fywyd.