Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partneriaeth Flaengar Powys

Yr heriau o'n blaenau

Mae pwysau ariannol enfawr yn wynebu'r Cyngor. Er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid Llywodraeth Leol, mae setliadau San Steffan yn cael effaith enfawr ar wasanaethau Cyngor Powys.  Bydd costau ynni cynyddol, cyfraddau llog cynyddol, a chynnydd yn y galw ar ein gwasanaethau oherwydd yr argyfwng costau byw, yn arwain at bwysau enfawr ar uchelgais y weinyddiaeth newydd ar gyfer y Cyngor. Mae'r rhain yn ychwanegu at yr angen parhaus i gynnal adolygiad trylwyr o'r lefel uchel o fenthyca cyfalaf, sy'n gosod dyledion sylweddol ar genedlaethau'r dyfodol, ac yn fwyaf pwysig, yr ymrwymiadau a wnaethpwyd yn rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer y dyfodol.

Nid yw'r Cyngor yn gweithredu ar ei ben ei hun.  Mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cael effaith fawr ar wasanaethau'r Cyngor. Bydd y weinyddiaeth newydd yn ceisio osgoi gorfod cynyddu baich Treth y Cyngor ar drefniadau ariannol cartrefi, fel y gwnaeth grwpiau'r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn y ddadl ar gyllideb derfynol yr hen weinyddiaeth. Mae'n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen ar gyfer gwasanaethau a gyllidir yn effeithiol a'r angen i osgoi ychwanegu at y baich ar ysgwyddau trethdalwyr y cyngor sy'n wynebu argyfwng costau byw. Byddwn yn agored am hyn, a byddwn yn ymgysylltu â Chynghorwyr, trigolion a'n cymunedau mewn perthynas â chynigion ar gyfer y gyllideb. Byddwn yn adolygu rhagdybiaeth y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y weinyddiaeth ddiwethaf, sy'n cynnwys cynnydd o 5% blwyddyn ar ôl blwyddyn am y 4 blynedd nesaf.

Nid yw Cyngor Powys ar ei ben ei hun yn gallu datrys yr argyfyngau costau byw, tai, gofal a'r amgylchedd, ond hefyd nid yw'n bosibl delio gydag effaith leol yr argyfyngau hyn heb Gyngor sy'n deall yr heriau, ac sy'n barod i fynd i'r afael â nhw.

Mae angen Cyngor sy'n gallu cydweithredu a chydgynhyrchu atebion gwell, sy'n barod i sefydlu partneriaethau mewn ffordd agored gyda'i gymunedau - Cyngor sy'n gallu manteisio i'r eithaf ar fuddsoddiad mewnol cronfeydd cyhoeddus a phreifat, a gwneud mwy gyda'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael.

Gallwn gyflawni cymaint mewn partneriaeth gydag eraill. Mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar gydweithio effeithiol rhwng pleidiau gwleidyddol ac unigolion blaengar. Bydd angen cydweithio ehangach ar gyfer ein rhaglen ni, gyda'r sawl sy'n gyfrifol am yr amrediad llawn o wasanaethau cyhoeddus ledled Powys a thu hwnt i'n ffiniau yng Nghymru a Lloegr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyflenwi a datblygu ein Rhaglen Flaengar uchelgeisiol ar gyfer Powys.

 

Y Cynghorydd James Gibson-Watt

Arweinydd Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Cyngor Sir Powys

Y Cynghorydd Matthew Dorrance

Arweinydd Grŵp Llafur Cymru, Cyngor Sir Powys