Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partneriaeth Flaengar Powys

Datblygu trefi a phentrefi ffyniannus

Sir o drefi bach yw Powys, sy'n cynnig ffocws ar gyfer gwasanaethau i gymunedau gwledig ehangach.  Busnesau sy'n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan bobl leol sydd wrth galon ein trefi a phentrefi ffyniannus, sy'n cyfrannu at economi gylchol er mwyn creu swyddi lleol a chynaliadwy.

Byddwn yn gweithio gyda'r Cynghorau Tref a fforymau masnach lleol a phobl leol i gynhyrchu cynlluniau lle sy'n cynnig gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol ein trefi, i hysbysu penderfyniadau cynllunio ac i ddenu buddsoddiad i'n trefi.

Byddwn yn adolygu polisïau parcio Cyngor Powys er mwyn darparu cyfleoedd i redeg ymgyrchoedd hyrwyddo parcio ar ddyddiau penodol er mwyn denu mwy o siopwyr ac ymwelwyr i'n trefi.

Byddwn yn datblygu strategaeth ganol trefi yn gyntaf i helpu sicrhau fod strydoedd mawr Powys yn ffynnu. Byddwn yn defnyddio'r pwerau sydd gan y Cyngor o ran mynnu fod perchnogion yn mynd i'r afael ag eiddo gwag a segur yng nghanol ein trefi er mwyn hyrwyddo adfywio canol ein trefi.

Byddwn yn cefnogi datblygu ac adfywio marchnadoedd yng nghanol y trefi fel cyrchfannau sylfaenol ein cymunedau.

Os bydd Cynghorau Tref a Chymuned yn dymuno, byddwn yn ymchwilio i ddatganoli gwasanaethau perthnasol i sicrhau eu bod yn ymateb yn well i anghenion lleol.

Byddwn yn paratoi i ddiweddaru'r cynllun datblygu economaidd ar gyfer y sir, a Bargen Twf Canolbarth Cymru i sicrhau eu bod yn ategu'r cynllun blaengar hwn, a'u bod yn gwireddu cynllun pontio hyfyw a bywiog i economi gylchol carbon isel.