Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022
Cynnwys rhanddeiliaid yn y broses o gwblhau PSA 2022
Mae'r Cyngor wedi comisiynu Tîm Iechyd a Lles Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, wedi'i arwain gan Lucy Taylor y Swyddog Datblygu Dechrau'n Dda, i wneud Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022, drwy gysylltu a thrafod â gwasanaethau a phartneriaid Cyngor Sir Powys, a sefydliadau eraill, a chyfarfod â Chwarae Cymru.
Goruchwyliwyd yr asesiad gan y swyddog cyfrifol, Jenny Ashton, y Rheolwr Strategaeth a Datblygu Gwasanaethau, Rhys Stephens, y Swyddog Datblygu Gwasanaethau, gyda'r Cyng. David Selby, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus yn cymeradwyo'r adroddiad terfynol.
Roedd y gwasanaethau, partneriaid a'r sefydliadau a gyfrannodd yn cynnwys:
- Gweithredu dros Blant
- Gwasanaethau Teithio Llesol
- Deallusrwydd Busnes
- Cymorth Busnes i Ofalwyr Plant
- Swyddog Digonolrwydd Gofal Plant
- Tîm Trawsnewid a Chomisiynu Gwasanaethau Plant
- Gwasanaethau Plant
- Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Eiddo Corfforaethol
- Cynghorwyr
- Credu - Gofalwyr Ifanc
- Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
- Heddlu Dyfed Powys
- Addysg
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
- Dechrau'n Deg
- Freedom Leisure
- Ysgolion Iach / Grwpiau Cyn-Ysgol Iach
- Gwasanaethau Priffyrdd
- Gwasanaethau Tai
- Impelo (Dawns Powys Dance o'r blaen)
- Gwasanaeth Anableddau Plant Integredig
- Bwrdd Dechrau'n Dda Iau
- Gwasanaethau Llyfrgell
- Bwrdd Gwasanaethau Lleol
- Mudiad Meithrin
- Tîm Hamdden Awyr Agored
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
- Gwasanaethau Cynllunio
- Rhwydweithiau Chwarae
- Iechyd y Cyhoedd
- Y Gwasanaeth Ysgolion
- Chwaraeon Powys
- Swyddog Dyfodol Cynaliadwy
- Cynghorau Tref a Chymuned
- Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd
- Adran Hyfforddiant
- Gwasanaethau Trafnidiaeth
- Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cynghori ac Eiriolaeth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- Yr Urdd
- Tîm Rhaglenni Ar y We
- Swyddog Iaith Gymraeg
- Swyddog Cyfranogiad ac Ymgysylltiad Pobl Ifanc
- Gwasanaethau Ieuenctid