Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022
Canfyddiadau allweddol 2019-2022 (ers asesiad 2016-2019)
Mae'r statws RAG ar gyfer Mater A wedi cael ei uwchraddio o oren i wyrdd.
Mae'r Materion eraill i gyd yn aros ar oren sy'n dangos nad yw'r holl feini prawf ar gyfer y materion hynny wedi eu cwrdd yn llawn. Fodd bynnag, o'r 100 o feini prawf ym Materion B-I mae'r rhan fwyaf, sef 57, yn wyrdd, neu wedi eu cwrdd yn llawn, mae 40 yn oren, wedi eu cwrdd yn rhannol, a dim ond 3 yn goch, sef heb eu cwrdd, fel yr eglurir yn y trosolwg isod.
Mater A: Poblogaeth: Dylai'r Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae roi trosolwg ar y data poblogaeth a demograffig a ddefnyddiwyd yn lleol i gynllunio chwarae.
Statws RAG ar gyfer Mater A
Mae data cynhwysfawr ar gael, er yn anodd cael gafael arno weithiau, felly asesir bod y meini prawf ar gyfer y mater hwn wedi eu cwrdd yn llawn, sy'n uwchraddiad, oherwydd roedd y meini prawf ond wedi eu cwrdd yn rhannol yn 2019.
Meini prawf eu cwrdd yn llawn | Wyrdd
|
Mater B: Darparu ar gyfer Anghenion Amrywiol: Dylai'r Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae ddarparu data am sut y bydd yr Awdurdod Lleol a'i bartneriaid yn mynd ati i gynnig cyfleoedd chwarae cynhwysol sy'n annog plant i gyfarfod a chwarae.
Statws RAG ar gyfer Mater B
Mae 6/10 o'r meini prawf yn oren, 4/10 yn wyrdd. Nid yw hyn wedi newid ers asesiad 2019.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Mater C: Y lle sydd ar gael i blant gael chwarae: Mannau Agored ac Ardaloedd Chwarae Awyr Agored pwrpasol heb staff: Dylai'r Awdurdod Lleol gydnabod y gallai pob man agored yn eu hardal fod yn ardaloedd pwysig i blant gael chwarae neu fynd trwyddynt i gyrraedd ardal neu le chwarae arall.
Statws RAG ar gyfer Mater C
Mae 11/17 o'r meini prawf yn wyrdd a 6/17 yn oren.
Ar gyfer y meini prawf Mannau Agored, mae 5/6 yn wyrdd ond mae hyn yn cael ei adael i lawr gan y maen prawf ar gyfer safleoedd Tir Llwyd, sy'n oren. Fodd bynnag, mae hyn yn uwchraddiad ers yr asesiad blaenorol.
Ar gyfer Ardaloedd Chwarae Pwrpasol Awyr Agored Di-staff, mae 6/11 yn wyrdda'r 5 arall yn oren a 2 o'r rheiny, sef datblygu safon newydd ar gyfer cyfarpar chwarae a chydnabod pwysigrwydd caeau chwarae wrth wneud penderfyniadau gwerthu, wedi eu hisraddio, ar ôl eu hasesu fel gwyrdd yn flaenorol.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Mater D: Chwarae dan oruchwyliaeth: Dylai'r Awdurdod Lleol geisio cynnig ystod o gyfleoedd chwarae dan oruchwyliaeth.
Statws RAG ar gyfer Mater D
Mae 11/13 o'r meini prawf yn wyrdd a 2, sef chwarae wedi'i staffio a chwarae Gwasanaeth Ieuenctid, wedi eu huwchraddio o oren ers yr asesiad blaenorol. Dim ond 2/13 sy'n dal i fod yn oren, felly mae'r meini prawf bron i gyd wedi eu cwrdd yn llawn a'r nod fydd gwneud hyn erbyn yr asesiad nesaf.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Mater E: Codi tâl am chwarae:Dylai'r Awdurdod Lleol ystyried pa gyfleoedd chwarae sy'n codi tâl ac i ba raddau y mae'r Awdurdod yn ystyried y taliadau hyn wrth asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae i blant o deuluoedd incwm isel yn ôl y Canllawiau Statudol.
Statws RAG ar gyfer Mater E
Mae 6/8 o'r meini prawf yn wyrdd, gyda dim ond 2/8 yn oren, er bod 1 o'r rhain sef cofnodi chwarae digost / cost isel wedi'i israddio, ar ôl ei asesu fel gwyrdd yn flaenorol. Fel gyda Mater D, y nod fydd cwrdd â'r meini prawf hyn yn llawn erbyn yr asesiad nesaf.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Mater F: Mynediad at le / darpariaeth chwarae: Dylai'r Awdurdod Lleol ystyried yr holl ffactorau sy'n cyfrannu at fynediad plant at chwarae neu symud o gwmpas eu cymuned.
Statws RAG ar gyfer Mater F
Mae 13/20 o'r meini prawf yn wyrdd a 3, cynllunio i wella mynediad at gerdded a beicio, rhoi hysbys i wybodaeth sy'n cyfrannu at agweddau cymunedol positif tuag at chwarae a gweithio gyda'r cyfryngau i annog portread positif o chwarae,wedi eu huwchraddioo oren yn asesiad 2019. Mae 6/20 yn orenac 1/20, ystyried mynediad at chwarae wrth wneud penderfyniadau trafnidiaeth, yn goch.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Mater G: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae: Dylai'r Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth am strwythur sefydliadol y maes polisi sy'n gyfrifol am reoli'r agenda chwarae a'r gweithlu chwarae.
Statws RAG ar gyfer Mater G
Mae 5/11 o'r meini prawf yn wyrdd a 6/11 yn oren. Nid yw hyn wedi newid ers asesiad 2019.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Mater H: Ymgysylltiad a chyfranogiad y gymuned: Dylai'r Awdurdod Lleol ymgynghori'n eang â phlant, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill i holi eu barn am ddarpariaeth chwarae. Dylai hefyd hyrwyddo ymgysylltu â'r gymuned ehangach i ddarparu cymunedau cyfeillgar i chwarae.
Statws RAG ar gyfer Mater H
Mae 1/2 o'r meini prawf yn wyrdd ac 1/2 yn oren. Nid yw hyn wedi newid ychwaith ers asesiad 2019.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Mater I: Chwarae fel rhan o'r holl agendâu polisi a gweithredu perthnasol: Dylai'r Awdurdod Lleol archwilio ei holl agendâu polisi o ran eu heffaith bosib ar gyfleoedd plant i gael chwarae a gwreiddio targedau a gweithredu i wella cyfleoedd chwarae ar gyfer plant ym mhob polisi a strategaeth o'r fath.
Statws RAG ar gyfer Mater I
Mae 6/19 o'r meini prawf yn wyrdd, 11/19 yn oren a 2/19 yn goch. Eto, nid yw hyn wedi newid ychwaith ers asesiad 2019.
Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol | Oren |
Yn gryno felly, nid yw'r asesiad cyffredinol ar gyfer 8 allan o'r 9 mater wedi newid - gan aros yn oren - gyda dim ond Mater A, Crynodeb o'r Boblogaeth, wedi'i uwchraddio i wyrdd. Roedd sgôr yr holl feini prawf ar gyfer 4 mater sef Mater B - Darparu ar gyfer Anghenion Amrywiol, Mater G - Sicrhau a Datblygu'r Gweithlu Chwarae, Mater H - Ymgysylltiad a Chyfranogiad y Gymuned, a Mater I - Chwarae fel rhan o'r Agendâu Polisi a Gweithredu, heb newid o gwbl.
Cafodd 5 maen prawf o Fater D - Chwarae Dan Oruchwyliaeth, a Mater F - Mynediad at Le / Darpariaeth Chwarae, eu huwchraddio o oren i wyrdd, cafodd 1 maen prawf o Fater E ei israddio o wyrdd i oren, a chafodd un maes prawf o Fater C - Y Lle Sydd Ar Gael i Blant Gael Chwarae, ei uwchraddio o goch i oren a 2 eu hisraddio o wyrdd i oren.
Rhaid gweld hyn yng nghyd-destun unigryw'r cyfnod asesu, gyda chysgod pandemig Covid-19 drosto'n drwm a'r Cynllun Parhad Busnes yn cael ei weithredu dros lawer o'r cyfnod hwn. Fodd bynnag, fel y mae'r dystiolaeth fanwl ar gyfer pob un o'r meini prawf yn ei ddangos, gwnaed cryn waith a llawer o gynnydd gyda sawl peth.
Arhosodd 3 maen prawf yn goch ac felly heb weithredu arnynt eto, ond rhaid gweld hyn eto mewn cyd-destun a bydd y rhain yn cael eu nodi'n glir fel blaenoriaethau dros y cyfnod nesaf. Mae'r diffygion a gofnodwyd yn erbyn yr amrywiol feini prawf hefyd wedi ein cynorthwyo i adnabod blaenoriaethau gweithredu eraill, rhai wedi eu cario drosodd o gynllun gweithredu 2019 a heb eu gweithredu'n llawn eto oherwydd cyfyngiadau Covid. Byddwn yn eu trafod ag ystod o bartneriaid, gwasanaethau a sefydliadau i gytuno ar gynlluniau a blaenoriaethau gweithredu ar y cyd dros y tair blynedd nesaf.