Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022

Beth a ddysgwyd o'r Coronafeirws

Mae Covid-19 wedi effeithio'n ddifrifol ar holl waith y Cyngor, yn enwedig ar staff, darparwyr gwasanaeth a rhai sydd angen cymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol, fel bod angen adleoli staff o wasanaethau eraill drwy'r Cynllun Parhad Busnes, y dechreuwyd ei ddilyn ym mis Mawrth 2021.  

Roedd gwasanaethau'n gweithredu o dan orchymyn 'pwysig i fusnes' tan ddechrau Mai 2022 pan ddychwelodd bob un o'r meysydd gwaith ar wahân i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwarchod y Cyhoedd ac Adnoddau Dynol at fusnes mwy neu lai fel arfer wrth i Gymru ostwng ei lefel rhybudd.  Fodd bynnag, erbyn diwedd Awst roedd y cynllun parhad wedi'i ailgyflwyno ar ôl i'r Sir weld cynnydd siarp mewn achosion Covid-19, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, wrth i don feirws newydd ysgubo dros y wlad, ac ni fu'n bosib ailafael mewn pethau tan fis Hydref 2021. Mae hyn, ynghyd â chyfyngiadau rheolau Covid, yn anochel wedi cyfyngu ar allu rhai gwasanaethau i symud ymlaen â rhai elfennau o'r Cynllun Gweithredu, er bod llawer o'r camau wedi eu cwblhau.  

Cynhaliwyd arolwg mewn ysgolion ledled y Sir a gasglodd fod 94% o blant y Sir, dros y cyfnod clo, wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded, y celfyddydau, ioga, dawns, chwaraeon, lles a ffitrwydd Joe Wickes, naill ai'n unigol neu gyda'u teuluoedd.  Fodd bynnag, casglodd adroddiad cynhwysfawr ar Les Cymunedol ym Mhowys yn dilyn y pandemig fod plant a phobl ifanc y Sir i gyd bron yn teimlo bod y pandemig wedi cael effeithiau negyddol arnynt. Roedd hyn yn cynnwys effaith ar iechyd corfforol a meddwl, ar addysg ac ar sgiliau iaith Gymraeg.

Roedd Covid yn faen tramgwydd anferth i bob gwasanaeth, er i fentrau a ffyrdd newydd o weithio ddod allan ohono.   Er i wasanaethau gael eu hatal dros dro gyda nifer o gyfyngiadau yn eu lle, roedd yn amlwg bod chwarae wedi parhau i ddigwydd yn ystod pandemig Covid-19. Bu'n bosib darparu rhai cyfleoedd chwarae drwy lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol; fodd bynnag, mae dywedodd rai pobl ifanc a theuluoedd eu bod yn colli'r gwasanaeth wyneb yn wyneb a bod hyn yn well ganddynt, oherwydd bod llawer o fywyd pob dydd ond ar gael ar-lein.