Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith ar Ddisodli'r Cynllun Datblygu Lleol yn dechrau

Image of countryside and houses

21 Gorffennaf 2022

Image of countryside and houses
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi fod gwaith ar strategaeth a fydd yn tywys graddfa a lleoliad datblygiadau newydd yn y sir wedi dechrau.

Gwnaeth y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys, gyhoeddiad mewn derbyniad a gynhaliwyd yn Nhŵr Brycheiniog ar ddiwrnod olaf Sioe Frenhinol Cymru (Dydd Iau, 21 Gorffennaf).

Mae'r cyngor wedi dechrau ar broses dair blynedd a hanner i baratoi cynllun datblygu newydd a fydd yn cynnwys Powys gyfan, ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Defnyddir y Cynllun Datblygu Lleol presennol (2011-2026) gan y cyngor i dywys a rheoli datblygiad, gan ddarparu'r sail i benderfynu ceisiadau cynllunio.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (2022-2037) yn cael ei lunio i ddod i rym o fis Mawrth 2026 pan ddaw'r Cynllun Datblygu Lleol presennol i ben.

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi ei Gytundeb Cyflwyno erbyn hyn sy'n cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau, ac amserlen i baratoi a mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Mae'r cytundeb, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru y mis diwethaf (Mehefin) hefyd yn esbonio'r camau y bydd y cyngor yn eu dilyn, ynghyd ag esbonio sut y gall datblygwyr, y cyhoedd a grwpiau eraill sydd â diddordeb gymryd rhan wrth ddatblygu'r cynllun.

"Fel Cynlluniwr Tref cymwys, gyda'm rôl rheoli gyntaf yn gwasanaethu cyn Gyngor Dosbarth Sir Faesyfed nôl ar ddechrau'r 1990au, mae'n fraint bod mewn sefyllfa erbyn hyn i oruchwylio llunio Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys," dywedodd y Cynghorydd Berriman.

"Tra bod llawer o ddiddordeb dealladwy wedi bod erioed mewn penderfynu ceisiadau cynllunio unigol, y Cynllun Datblygu Lleol sy'n sefydlu'r cyd-destun, y cyfeiriad strategol, tôn ac effaith cyfeiriad y Polisïau a fydd yn tywys y penderfyniadau unigol hynny.

"Mae'n hanfodol felly, i ddatblygwyr, Cynghorau Tref a Chymuned, Grwpiau Buddiant Lleol ac unigolion i ymarfer eu hawliau i gael gwrandawiad a mynegi eu barn wrth lunio'r cynllun newydd cyffrous hwn.

"Cynllun i'r dyfodol, a fydd, gobeithio, yn parhau i osod y cyd-destun polisi priodol, er mwyn cofleidio'r heriau go iawn a wynebwn dros argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, hwyluso adeiladu cartrefi fforddiadwy, rhoi hwb i fywiogrwydd canol ein trefi ac atgyfnerthu ein cymunedau gwledig."

Un o gamau cynnar pwysicaf y broses fydd y galw am safleoedd datblygu posibl, a adwaenir fel y "Cam Safleoedd Ymgeisiol", a ddisgwylir ei gynnal yr Hydref hwn.

Ochr yn ochr â chasglu tystiolaeth ar anghenion a gofynion tir, bydd y cyngor yn datblygu Strategaeth Ddewisol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, gydag ymgynghori eang ar hyn ym mis Mai/Mehefin 2023.

Gellir gweld y Cynllun Cyflwyno ar-lein ar Polisi Cynllunio a chlicio ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (2022 - 2037). Gellir ei weld hefyd yn y llyfrgelloedd canlynol:

Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanandras, Rhaeadr Gwy, Y Trallwng ac Ystradgynlais.

Ynghyd â chyhoeddi'r Cynllun Cyflwyno ar y wefan, mae'r cyngor wedi cynnwys dolen i 'Gyfarwyddyd Cymunedol Cynlluniau Datblygu' Llywodraeth Cymru - adnodd defnyddiol a chefnogol i gymunedau a phartïon sydd â diddordeb i gynorthwyo wrth ddeall proses y cynllun datblygu yng Nghymru.