Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol pob oed newydd yn agor yn Llanfair Caereinion

Image of Ysgol Bro Caereinion sign

5 Medi 2022

Image of Ysgol Bro Caereinion sign
Mae ysgol newydd bob oed wedi agor ei drysau i ddysgwyr am y tro cyntaf heddiw, gan groesawu cyfnod newydd o addysg yn ardal o ogledd Powys.

Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion yw'r ysgol ddiweddaraf i gael ei sefydlu gan Gyngor Sir Powys.

Dyma drydedd ysgol bob oed (4 - 18 oed) y sir ac fe'i sefydlwyd yn sgil uno Ysgol G.G. Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion. Bydd yr ysgol yn darparu addysg Gymraeg a Saesneg ar safleoedd presennol yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.

Mae Ysgol Bro Caereinion hefyd wedi enwi ei huwch dîm arwain yn barod ar gyfer ei diwrnod cyntaf o addysg.  Y tîm newydd yw:

  • Huw Lloyd Jones - Pennaeth
  • Edward Baldwin - Dirprwy Bennaeth
  • Laura Jones - Pennaeth Cynorthwyol
  • Michael Humphreys - Pennaeth Cynorthwyol
  • Rhian Mills - Pennaeth Cynorthwyol
  • Ceri Harris - Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

Bydd yr ysgol newydd yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg, sydd â'r nod i wella hawl a phrofiad y dysgwr. Cafodd y strategaeth ei diweddaru ym mis Gorffennaf 2022

Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni Ysgol Bro Caereinion ac rwy'n dymuno'r gorau i bob un ohonynt wrth iddynt gychwyn ar y cyfnod newydd hwn.

"Mae'r cyngor wedi ymrwymo i wella'r ddarpariaeth a hawliau addysg i holl bobl ifanc Powys trwy gyflwyno ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg. Mae sefydlu Ysgol Bro Caereinion yn gam allweddol yn y cam cyntaf i gyflawni'r strategaeth hon.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag uwch arweinwyr Ysgol Bro Caereinion wrth i ni weithio gyda'n gilydd i wella canlyniadau i'n dysgwyr ynghyd â datblygu a gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Llanfair Caereinion.  Rwy'n dymuno'r gorau i bawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Bro Caereinion: "Mae agor Ysgol Bro Caereinion heddiw yn garreg filltir bwysig ar ein taith i drawsnewid addysg yn Llanfair Caereinion a'r dalgylch cyfagos.

"Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol i gyrraedd y cam hwn ac rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â hyn gan gynnwys yr uwch dîm rheoli a holl staff yr ysgol newydd, ynghyd ag Aelodau Cabinet a swyddogion Cyngor Sir Powys.

"Rwyf hefyd am ddiolch i aelodau'r corff Llywodraethu Dros Dro am eu hymrwymiad a'u gwaith caled dros fisoedd lawer iawn ac i rieni/gwarcheidwaid a'r gymuned ehangach am eu cefnogaeth barhaus. 

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r ysgol newydd a'i dysgwyr wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun cyffrous a phwysig hwn er mwyn helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol dysgu yn yr ysgol. "

Am ragor o wybodaeth am drawsnewid addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg