Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau'r Cyngor - 19/9/22

Image of the Powys County Council logo on a black background

13 Medi 2022

Yn dilyn y cyhoeddiad am ŵyl banc ar gyfer Angladd Gwladol Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II ddydd Llun (19 Medi), bydd Cyngor Sir Powys yn gwneud y newidiadau canlynol i wasanaethau:

Gwastraff ac Ailgylchu
Ni fydd unrhyw sbwriel na deunydd ailgylchu'n cael eu casglu 19 Medi.
Bydd y casgliadau gwastraff ac ailgylchu wythnos nesaf, gan gynnwys gwastraff gardd, yn symud ymlaen ddiwrnod, gyda'r criwiau'n gweithio dydd Sadwrn 24 Medi i orffen rowndiau'r wythnos:

Diwrnod arferol       Diwrnod casglu newydd

Llun 19 Medi             Maw 20 Medi
Maw 20 Medi            Mer 21 Medi
Mer 21 Medi              Iau 22 Medi
Iau 22 Medi               Gwe 23 Medi
Gwe 23 Medi            Sad 24 Medi

Bydd holl ganolfannau gwastraff ac ailgylchu'r Sir hefyd yn cau dydd Llun 19 Medi.
I gadarnhau'r newidiadau i'ch diwrnod casglu am yr wythnos yn cychwyn 19 Medi, neu os nad ydym wedi gallu casglu am unrhyw reswm, ewch i: Diwrnod casglu biniau

Adeiladau cyhoeddus
Bydd adeiladau cyhoeddus y Cyngor - gan gynnwys llyfrgelloedd, derbynfeydd cyhoeddus yn Y Gwalia, Llandrindod, Y Lanfa yn Y Trallwng ac Y Gaer yn Aberhonddu hefyd ar gau.

Ysgolion
Bydd ysgolion Powys ar gau ar 19 Medi ac yn ailagor y diwrnod canlynol.

Canolfannau Hamdden
Bydd canolfannau chwaraeon a hamdden Freedom Leisure ar gau.

Llyfrau cydymdeimlo
Mae llyfrau cydymdeimlo i'w gweld yn Aberhonddu, Llandrindod a'r Drenewydd.  Bydd yr adeiladau'n cau ar 19 Medi ond yn ailagor ar yr 20fed am ddiwrnod arall er mwyn rhoi cyfle i drigolion dalu teyrnged.  Am fanylion llawn, ewch i wefan y Cyngor.

Argyfyngau
Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaeth y tu allan i oriau arferol ar gyfer argyfyngau ar 19 Medi. Am fanylion ewch i Cysylltu tu allan i oriau gwaith