Cysylltu tu allan i oriau gwaith
Dim ond mewn amgylchiadau eithafol y dylech ddefnyddio'r rhif ffôn hwn.
Gallwch roi gwybod am argyfwng y tu allan i oriau, gan gynnwys atgyweirio tai, ar ein gwefan Llesiant Delta www.llesiantdelta.org.uk
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl fel y gall cynghorwyr weithredu ar eich argyfwng heb unrhyw oedi.
Dim ond os bydd angen y byddwn yn cysylltu â chi, a hynny er mwyn sicrhau y gellir cyfeirio adnoddau i rywle arall i helpu cwsmeriaid eraill sydd angen cymorth brys.
Mae Llinell Ofal Powys yn cynnig Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau ar ôl 5pm tan 8.30am ar ddyddiau o'r wythnos, bob dydd Sadwrn a dydd Sul ac yn ystod Gwyliau Banc.
Ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, ewch i'n tudalen Pori trwy Wasanaethau i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch.
01597 827005
0345 0544 847
Trwy ffonio byddwch yn gallu siarad ag unrhyw un o'r gwasanaethau hyn os yw'ch galwad yn un brys.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng.
Dywedwch wrth y teleffonydd pa wasanaeth brys sydd ei angen arnoch.
Sylwch: Byddwn yn ymwneud â galwadau nad ydynt wedi eu dosbarthu fel blaenoriaeth ar y bore cyntaf y bydd ein swyddfeydd yn ailagor ar ôl y penwythnos neu ar ôl Gwyliau Banc.
Rydym yn darparu'r Gwasanaethau canlynol:-
- Social Services
- Gofal Gartref
- Cau Ffyrdd
- Tai Gwarchod
- Argyfyngau Mawr
- Carthffosiaeth
- Digartrefedd
- Atgyweiriadau brys i eiddo tenantiaid y Cyngor
- Amddiffyn y Cyhoedd
- Yr Amgylchedd a Llifogydd