Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Croesawu ceisiadau i ysgolion uwchradd

Image of secondary school pupils in uniform running

20 Medi 2022

Image of secondary school pupils in uniform running
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud ei fod nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer plant fydd yn mynd i ysgol uwchradd ym mis Medi 2023.

Mae gan rieni neu ofalwyr plant blwyddyn chwech tan ddydd Gwener 11 Tachwedd 2022 i anfon cais.

Dywedodd y Cyng Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn annog pob rhiant/gofalwr i lenwi'r ffurflen gais yma cyn gynted â phosibl er mwyn cael lle mewn ysgol uwchradd fis Medi 2023.

"Os na fydd wedi'I llenwi mewn pryd, yna mae'n bosibl y bydd hyn yn bygwth lle eich plentyn yn yr ysgol mae wedi'i dewis."

Dylai rhieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein yn Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol erbyn dydd Gwener 11 Tachwedd 2022.

Os nad ydych yn gallu gwneud hynny ar-lein, cysylltwch â admissions@powys.gov.uk

Os nad ydych yn byw yn agos at ysgol, efallai y bydd eich plant yn gymwys i gael cludiant am ddim. Mae'r meini prawf yn wahanol ar gyfer gwahanol fathau o ysgolion, felly gwiriwch yn ofalus i ddarganfod a ydych chi'n gymwys ai peidio trwy ddarllen y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, sydd ar gael ar dudalen: Gwneud Cais am Gludiant Ysgol