Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cabinet i ystyried achos busnes amlinellol ar gyfer ysgol gynradd newydd

Image of Sennybridge C.P. School

21 Medi 2022

Image of Sennybridge C.P. School
Bydd cynlluniau cyffrous allai drawsnewid addysg i ddysgwyr yn ne Powys yn symud gam yn nes os bydd y Cabinet yn rhoi sêl bendith i gyflwyno cynlluniau i Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol gynradd ddwy ffrwd newydd i 150 o ddysgwyr ym Mhontsenni yn lle'r adeiladau presennol.

Cafodd  achos amlinellol strategol y cyngor ar gyfer yr ysgol newydd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau'r flwyddyn.

Fel rhan o gam nesaf y prosiect, mae'r cyngor wedi llunio achos busnes amlinellol a fydd yn cael ei drafod gan y Cabinet ddydd Mawrth 27 Medi.

Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu'r cyngor wireddu ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, sydd wedi'i diweddaru yn dilyn etholiadau'r cyngor sir nôl ym mis Mai.

Bydd y Cabinet yn cael clywed bod angen £11.1m i adeiladu'r ysgol newydd gyda 65% o'r arian yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (hen Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif).  Bydd y 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.

Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol, bydd wedyn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Nid yw adeiladau presennol Ysgol Gynradd Pontsenni yn addas i ateb anghenion cwricwlwm yr 21ain Ganrif nac yn ateb anghenion lles y disgyblion.

"Byddai'r ysgol newydd ym Mhontsenni'n darparu cyfleusterau haeddiannol i'r plant gan gyflwyno'r cwricwlwm mewn ffordd barhaus a chydlynol o'r Cyfnod Sylfaen tan ddiwedd Cyfnod Allweddol 2.

"Bydd yn sicrhau parhad addysg Gymraeg yn yr ardal a bydd modd hefyd cynnwys darpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar ar y safle.

"Os bydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r achos busnes amlinellol, bydd hwn yn fuddsoddiad enfawr arall yn ein seilwaith ysgolion."

I gael mwy o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg