Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth gyda chostau tanwydd ar gael nawr

Image of someone holding their hands above a radiator

3 Hydref 2022

Image of someone holding their hands above a radiator
Mae grantiau ar gael gan Gyngor Sir Powys i helpu gyda chostau tanwydd ac mae preswylwyr cymwys yn cael eu hannog i wneud cais ar-lein.

Gall unrhyw aelwydydd sy'n derbyn budd-dal incwm isel fod â hawl i daliad untro o £200 gan Gyngor Powys er mwyn darparu rhywfaint o gymorth tuag at dalu biliau tanwydd fel rhan o Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru.

Hefyd, fel rhan o Gynllun Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn y cyngor, efallai y bydd rhai o'r aelwydydd hyn â hawl i dâl un-tro arall o £150 os ydynt yn gyfrifol am dalu biliau gwresogi oddi ar y grid.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ac i wirio os ydych yn gymwys, ewch i Cynllun Cymorth Tanwydd 2022/23 a

I wneud y broses ymgeisio'n haws, mae'r ffurflen ymgeisio ar gyfer y ddau gynllun wedi'u cyfuno gydag ymgeiswyr sy'n gymwys ar gyfer y ddau daliad yn cael eu hadnabod yn awtomatig.

"Gyda chostau'n cynyddu a gaeaf oer o'n blaenau, bydd yr angen i gynhesu ein cartrefi yn amlwg yn pryderu nifer ohonom." Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach. "Rydym yn annog pob aelwyd cymwys i gysylltu ac i wneud cais am y grantiau sydd ar gael i helpu gyda chost gwresogi ein cartrefi y gaeaf hwn.

Ychwanegodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, Yn ogystal â'r grantiau hyn i helpu gyda chostau tanwydd, mae prif Gynllun Cymorth Costau Byw a'r Cynllun Cymorth Costau Byw yn ôl disgresiwn y cyngor yn cynnwys taliadau un-tro eraill a allai fod o gymorth yn ystod y cyfnod hwn o gyni.

"Rydym wrthi'n ysgrifennu at aelwydydd sy'n gymwys ar gyfer y cynlluniau hyn, ond os oes unrhyw un arall eisiau mwy o wybodaeth am ba gymorth sydd ar gael, cofiwch edrych ar wefan y cyngor: Grantiau a Chyllid